Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ystafell Bedwyr Mae yna bethau'n digwydd nad oes dichon inni eu deall: dyna fel y mae hi. Yr oedd marw disymwth ac annhymig Bedwyr yn un o'r rheini. Mewn trafodaeth ar farddoniaeth Homer y mae Simone Weil yn dweud mai un o'i nodweddion sylfaenol yw syndod marw disyfyd; gwyr yn llawn bywyd wrth eich ochr chwi un munud ac yna, y munud nesaf, yn feirwon oer. Mae yna gymaint o sioc i'r corff yn y fath sydynrwydd fel ein bod yn gwybod fod y marw wedi digwydd — oni ddywedwyd wrthym y bore Sadwrn brawychus hwnnw, yn Ysbyty Gwynedd? ond bod y teimlad yn gwrthod y neges. O'r herwydd, yn y coleg ym Mangor, yr ydw i'n dal i ddisgwyl gweld Bedwyr yn taro heibio neu'n disgwyl ei weld wrthi'n rhoi darn o waith i Mrs. Gwyneth Williams, Ysgrifenyddes yr Adran Gymraeg, i'w deipio. Gwaeth na dim yw dod ar hyd coridor hir llawr uchaf hen adeilad y coleg, lle mae'r Adran, a chlywed aroglau baco cetyn. Ond nid efô a fu yno'n smocio. Cefais i'r dasg o symud i'w ystafell o. Fe fûm i'n sbio ar y drws am ddyddiau cyn medru mynd drwyddo. Yn y diwedd, er mwyn dod o hyd i faterion adrannol bu'n rhaid imi fynd drwodd. A'r wythnos cyn dechrau'r tymor fe fûm yn symud: yn hel pethau Bedwyr i silffoedd arbennig ac i focsys. Dyna orchwyl na hoffwn i mo'i chyflawni hi eto. 'Ystafell Gynddylan,' meddai'r Heledd honno gynt, gan ail a thrydydd ddweud y geiriau, a syndod absenoldeb ei brawd yn cynyddu arni: 'Ystafell Gynddylan!' Yr oedd Bedwyr wedi penderfynu rhoi'r gorau i fod yn Bennaeth yr Adran. Yr oeddwn innau i fod i geisio rhedeg pethau o'r cyntaf o Hydref eleni. Wrth inni drafod y peth 'roeddwn i, yr adeg honno, wedi dweud nad oeddwn i ddim am symud ystafell. Ond yr oedd Bedwyr am ddangos imi lle'r oedd ffeiliau ac yn y blaen yn ei ystafell o. Ac, fel y mae'n chwithig meddwl, 'roedd wedi bod yn rhoi trefn ar ei bethau; yn taflu llawer o'r 'nialwch sy'n hel mewn unrhyw weinyddiaeth.