Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgu'r Ffydd Nid oes amheuaeth o gwbl ymysg gwyddonwyr a chrefyddwyr fel ei gilydd ddarfod i grefydd chwarae rhan hanfodol a thyngedfennol yn natblygiad y ddynoliaeth. Daeth yr ymwybyddiaeth o grefydd i'r amlwg yn gynnar iawn i ddyn yn ei esblygiad oddi wrth greaduriaid nad oeddynt yn ddynol. Nid oes sicrwydd pendant pryd y digwyddodd hyn oherwydd y mae i grefydd amryw ddelweddau sy'n gwbl wahanol o ran eu natur. Serch hynny, ni ellir dadlau nad oes a wnelo'r elfen hunanymwybyddiaeth â tharddiad crefydd yn ei hamryfal ffyrdd ac y mae'n amlwg mai dros genedlaethau lawer y digwyddodd hyn. Yn ddiddadl, y dirgelwch mwyaf un ynglyn â'r creadur dynol a'u esblygiad ydyw ffynhonnell ei hunan ymwybyddiaeth. Yn draddodiadol, coleddwyd y syniad fod Duw wedi'i amlygu ei hun mewn 'llawer dull a modd'. Serch hynny, yr oedd yn anhepgor i'r creadur dynol gael ei gyflyru i dderbyn syniad o'r fath. Yn esblygiadol, daeth i feddwl a chalon dyn y gallu a'r awydd ac yn fwyaf arbennig, y medrusrwydd i gredu ac i ddeall. Onid oddi ar nodweddion cynhenid o'r fath y datblygodd holl wareiddiadau'r byd a'u priodoleddau diwylliannol a chrefyddol? Ymgais ydyw pob un ohonynt yn y bôn ac yn ddiwahaniaeth i addasu ar gyfer bywyd a'r amgylchfyd. O dipyn i beth, ond yn sicr ddigon, daeth crefydd, pa mor gyntefig bynnag fu ar y cychwyn, i chwarae ei rhan ar lwyfan mawr esblygiad y creadur dynol. Ac wrth i ddyn gynhyddu yn ei hunan ymwybyddiaeth, daeth crefydd i ddylanwadu fwyfwy ar ei ddatblygiad. Ar wahân i'r gred fod Duw wedi'i amlygu ei hun i ddyn, nid oes amheuaeth o gwbl, o edrych yn ôl ar y datblygiad crefyddol dros ddwy fil o flynyddoedd a mwy, mai'r pwerau cryfaf eu dylanwad oedd y cartref a'r eglwys. Ar y sylfeini hyn y daeth dyn a'i hiliogaeth i ddysgu am y ffydd Gristnogol a'r traddodiad crefyddol a oedd yn gynwysedig ynddi. Ac er i effeithiau'r meddwl a'r osgo wyddonol ar ôl i Darwin gyhoeddi ei ddamcaniaeth esblygiadol ddylanwadu ar rai agweddau