Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Tyrd Ysbryd Glân iJn c'lonnau ni (Emyn 245 a 246) Un o emynau mawr yr Eglwys Gristnogol yw'r emyn Lladin Veni, Creator Spiritus. Nid oes yr un emyn arall wedi ymgartrefu mor llwyr ymhob un o'r amrywiol draddodiadau yn yr eglwys orllewinol nac a groesodd mor ddidramgwydd o'r eglwys Rufeinig i'r eglwys Bro- testannaidd. Tadogwyd yr emyn ar Siarlys Fawr, ar Ambrosius a Grigor Fawr, ond heb lawer o sail i hynny, ac nid oes modd gwybod pwy yw'r awdur. Yr oedd yr emyn yn adnabyddus yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r tebyg yw mai rywbryd yn y ganrif flaenorol y'i cyfan- soddwyd: 0 leiaf ni cheir copi cynharach ohono na'r ddegfed ganrif. Ond o'r ddeuddegfed ganrif ymlaen y mae ar gael yn gyffredin mewn llyfrau emynau a llyfrau gwasanaeth pob arfer yn holl eglwysi'r gorllewin. Fe'i ceir heddiw yn y Breviarium Rhufeinig yn emyn y Sulgwyn adeg Gosber a'r Drydedd Awr, a hefyd yng ngwasanaethau ordeinio offeiriaid, cysegru esgobion, cysegru eglwysi, etc. Er y mynych gopïo a throsglwyddo mae'n drawiadol na fu odid ddim newid yng ngeiriau'r emyn — manion arddull yw'r amrywiadau ac na fu dim ychwanegu at ei chwe phennill ar wahân i amrywiol ffurfiau'r 'doxology'. Trwy'r canrifoedd cenid yr emyn gyda'r defodau mwyaf urddasol a dwys. Y mae'n emyn yn nhraddodiad gorau emynyddiaeth Ladin: yn syml ac uniongyrchol, gyda'i rym yn ei gynildeb, ei fydryddiaeth yn syber a'i arddull yn ymataliol. Datblygodd emynyddiaeth Ladin arall yn yr eglwys ganoloesol, yn fwy moethus ei harddull a theimladol ei hapêl, ond yn yr emyn hwn mae dwyster y teimlad yn cael ei fynegi yng ngwrthrychedd yr ieithwedd. Ni all y symylrwydd guddio taerineb y deisyfiad.