Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trem ar Ryddiaith y Piwritaniaid 1630-1733 Gellir canfod rhyw bedair ton yn ymchwydd y rhyddiaith Biwritan- aidd yn y cyfnod hwn, sef cyn y Rhyfel Cartref, yn ystod y Weriniaeth a'r Ddiffynwriaeth, ar ôl yr Adferiad a chyfnod yr erlid ar Anghydffurfiaeth, a chyn y Diwygiad Efengylaidd yn y 18 ganrif. Y personau cynrychioladol yn y pedwar achos yw Oliver Thomas (c. 1598-1652), Morgan Llwyd (1619-1659), Charles Edwards (1628-91?), a Jeremi Owen (fl. 1704-44). Y mae i bob un o'r pedair ton ei harbenigrwydd ei hun. Yn achos Oliver Thomas, dyna'r agwedd deuluaidd ar grefydd a'r gwrthrychedd mawr a berthynai i'w ffydd Galfinaidd gadarn a'i epistemeg ddeallol finiog; yn achos Morgan Llwyd, dyna'r agwedd bersonol, empeiraidd bron, ar grefydd yn troi'n oddrychaeth ac yn gyfriniaeth amlochrog; yn achos Charles Edwards, dyna'r agwedd hanesyddol ar grefydd, ynghyd â'r profiad ysbrydol dwys a berthyn i'r Cristion o Biwritan; ac yn achos Jeremi Owen, dyna'r grefydd rydd, hamddenol a dadleuol a ddilynodd gyfnod o erlid blin. Hwyrach mai gan y Piwritaniaid hyn y cafwyd peth o ryddiaith wreiddiol orau'r cyfnod, a dichon mai'r rheswm dros hynny yw bod eu crefydd hwy yn fwy personol nag eiddo'r Anglicaniaid. Yr oedd rheswm diwinyddol y tu cefn i sut yr ymagweddai y naill garfan eglwysig a'r llall tuag at lenydda fel y cyfryw, fel y ceisir dangos yn awr. Pwnc awdurdod a'i darddle sydd wrth wraidd y gwahaniaeth rhwng y ddwy garfan mewn diwinyddiaeth. Yn ei On The Laws of Ecclesiastical Polity a gyhoeddwyd mewn wyth gyfrol rhwng 1594 a 1600 dadlau Richard Hooker dros eglwys sefydledig Elisabeth. O graffu ar ei waith gwelir nad yw thesis yr Athro J. F. H. New ymhell o'i lle.1 Gwelir fod sail athronyddol yn gymysg â Chalfiniaeth arwynebol yn y meddwl Anglicanaidd o'r cychwyn. Y mae'r termau