Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duges Amalffi Webster: drych o gymdeithas Lleolir John Webster ymhlith dramodwyr cyfnod olaf y Frenhines Elisabeth I er iddo gyfansoddi ei weithiau pwysicaf yn ystod teyrnas- iad ei holynydd Iago. Fe'i cyfrifir yn drasiedïwr crefftus er iddo gyfansoddi rhai comedïau. Cydnabyddir Vittoria Corombona a Duges Amalffi yn ddramâu y gellir eu cymharu â rhai o gamp- weithiau William Shakespeare. Ceir ynddynt fynegiant eglur a threiddgar o'r natur ddynol a dadansoddiad o drueni'r ddynoliaeth a'i henbydrwydd moesol. Adlewyrchir ynddynt hefyd gyfuniad o ddyn- eiddiaeth a dychymyg byw, a phortread o'r da a'r drwg mewn gwragedd. Canfyddir yng nghymeriad Duges Amalffi elfennau cryf o'r llywodraethwr seciwlar yng nghefndir yr hen fyd uchelwrol a cheidwadol ynghyd ag astudiaeth o'r wraig a oedd yn ymwybodol o'i dyletswyddau cyhoeddus i'w phobl ar y naill law a than ddylanwad ei nwydau rhywiol personol ar y llaw arall. Amlygir yn y ddrama Duges Amalffi elfennau realpolitik seiliedig ar ffeithiau hanesyddol. Yng ngolwg y ddau frawd, y Cardinal Lodovico d'Aragona a Carlo, Marcwis Gerace, yr oedd hi'n hynod bwysig i'w chwaer, y Dduges, naill ai barhau'n ddibriod wedi marwolaeth ei gwr cyntaf neu ei bod yn priodi rhywun o'u dewis hwy oblegid y perygl y gallai'r Ddugaeth, pe priodai'r Dduges yn ôl ei dymuniadau ei hun, lithro o afael teulu Aragon. Canlyniad hynny fyddai tanseilio grym Sbaen yn yr Eidal gwlad wan a rhanedig yn boliticaidd a lleihau eu pwer hwythau mewn byd ac eglwys. Pwysleisir egwyddorion moesol sylfaenol yn y ddrama ac nid yw'r prif gymeriadau'n gallu dianc rhag dialedd a phoen cydwybod. Amcan y ddrama yw dangos fel y gall nerthoedd cyfraith a threfn oresgyn pob elfen o anarchaeth a chreu sefydlogrwydd yn y wladwriaeth. Trigai Duges Amalffi a'i brodyr yng nghyfnod dirywiad yr hen gyfundrefn ffiwdalaidd pan geid anhrefn a dinistr, a'r unig fodd i symud hynny