Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau ISAAC THOMAS, Trosom Ni: Nod- iadau ar Drefn y Cadw yn yr Ysgryth- urau, Tŷ John Penry 1991. £ 2.95 (ISBN 1 871799 10 4) Dyma un o'r llyfrau diwinyddol gorau imi ei ddarllen yn y Gymraeg ers tro. Llwyddodd y Dr. Isaac Thomas i grynhoi credo'r Cristion i drigain tudalen. Ymdriniodd â han- fodion y ffydd o'r creu i'r cadw, ac o gyflawnder yr amser i ddiwedd amser. Yn dda y creodd Duw ei fyd, ond fe'i sarnwyd gan anufudd-dod dyn. 'Er gwaethaf anufudd-dod, nid yw Duw wedi bwrw heibio ei fwriad o greu dyn ar ei lun a'i ddelw ei hun,' meddai Isaac Thomas (t.30). Ar sail ei gariad creadigol ac achubol, ei drugaredd.a'i ffyddlon- deb diwyro, bu Duw ar waith ar hyd yr oesoedd yn rhyddhau'r ddynol- iaeth o afael pechod. Yn Iesu Grist y cyflawnwyd hyn yn derfynol. 'Dyma'r efengyl, y newydd da am fuddugoliaeth Iesu Grist, Mab Duw. Mae Duw yn dwyn ei fwriad tragwyddol i ben, sef rhyddhau dynion o afael eu pechodau a'u hadfer i iawn berthynas ag Ef ei hun, ac â'i greadigaeth. Y mae yn gwneud hyn trwy ei unig Fab, yr hwn a'i huniaethodd ei hun â phechadurusrwydd dynion gan ymostwng i ddioddef canlyniad hynny, sef bedydd ei farwolaeth, ond bedydd sydd hefyd yn fedydd ei atgyfodiad, ei oruchafiaeth ar bwerau drygioni' (t.14). Ymhelaethu ar y crynodeb hwn a wnaeth y Dr. Thomas yng ngweddill y gyfrol gan ddibynnu ar ei wybod- aeth drwyadl o'r Ysgrythur i egluro bannau'r ffydd. Gan mor sicr ei ysgolheictod medrodd fynd i'r afael â rhai o'r pynciau mwyaf dyrys megis 'digofaint Duw'. Dangosodd nad tymer ddrwg neu fympwy mo ddigofaint Duw. 'Canlyniad anochel trosedd ydyw' (t.25), yn ôl yr Hen Destament, ac ar ôl edrych ar ail hanner Rhufeiniaid 1 casglodd Isaac Thomas, 'Yn ôl Paul, felly, yn nhrefn Duw fe'n cosbir nid am ein pechodau ond gan ein pechodau. Mae Duw yn unol â'i amcan o greu dyn ar ei lun a'i ddelw ei hun, wedi ei osod mewn byd moesol lIe mae pechod bob amser yn esgor ar bechod mwy, a'r drwg yn cynhyrchu drwg gwaeth. Dyma 'ddigofaint Duw'. Duw a greodd y drefn hon ac felly addas yw priodoli y digofaint hwn iddo ef' (t.28). Er mor real y digofaint, trugaredd Duw a drawodd Isaac Thomas yn bennaf. Disgrifiodd 'chesedd' Duw fel 'ymlyniad diwyro wrth amcan