Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddefnyddio ochr yn ochr â'r craidd Beiblaidd hwn. Yn drydydd, mae i gyhoeddi'r gyfrol hon oblygiadau cydenwadol. Os dyma gyffes ffydd un a fu'n hyfforddi to ar ôl to o weinidogion eglwysi'r Annibynwyr Cymraeg, beth sy'n rhwystr i'r eglwysi hynny fod yn aelodau o 'Enfys'? Gallwn feddwl y byddai aelodau Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yn dweud 'Amen' wrth bob pennod yn y llyfr hwn, heb sôn am aelodau Comisiwn Cydwladol yr Eglwyswyr a'r Pab- yddion, a ysbrydolwyd gan brofiad yr Eglwys Fore o 'koinônia'. Church as Community oedd teitl eu had- roddiad olaf hwy (ARCIC 11, 1991). Daw'r hyn sy'n gyffredin i ni i gyd i'r golwg wrth olrhain ein traddod- iadau i lygad y ffynnon ysgrythurol. Ni chyfyngwyd oblygiadau'r ffydd Gristnogol i faterion eglwysig neu grefyddol. Gall roi i ni egwyddorion moesol a chymdeithasol a fydd yn effeithio ar dynged y greadigaeth gyfan. Fe ddangosodd yr Athro Isaac Thomas 'mai'r hyn a olygai Paul, i raddau helaeth, wrth "dywysog- aethau ac awdurdodau" yw'r hyn a elwir heddiw yn "strwythurau cym- deithas" a "deddfau natur", pethau a grewyd er lles dynolryw (Col. 1: 16), ond sydd o'u camddefnyddio yn enw "anghenrhaid cenedlaethol", "cyfleustra milwrol", "penderfyn- iaeth y farchnad" a'u tebyg, wedi eu troi yn bwerau cudd, cythreulig a distrywgar megis, er enghraifft, yr elyniaeth ddreng rhwng Pabydd a Phrotestant, rhwng Gwyddel a Phrydeiniwr yng Ngogledd Iwerddon, neu'r difrod sydd wedi dilyn difodi fforestydd glaw y ddaear. Y mae buddugoliaeth ar y pwerau hyn eisoes ar gael' (t.69). Ymhle? 'Yng Nghrist y mae dihalog lun y Duwdod wedi ei adfer ar deulu dyn' (t.57). Fe'n gwahoddir ni gan Dduw i gydgyfranogi ym muddugoliaeth Crist trwy rym yr Ysbryd Glân. Dyna her Trosom Ni i Gymru ar drothwy'r degawd o efengylu. Dyma'r newyddion da i'r byd. Cyfrol i'w phrynu a'i darllen yw hon. SAUNDERS DAVIES Caerdydd R. EMYR JONES, Pymtheg Dinas (Gwasg Gomer, Llandysul, 1992), tt.129. Pris: ¤3.95. Y mae disgrifio teithiau i wlad bell yn genre llenyddol a fu'n dra phob- logaidd yng Nghymru yn ystod y ganrif hon. Dechreuwyd y ffasiwn gan wyr fel Emrys ap Iwan ac O. M. Edwards ac y mae twr o lyfrau megis Ar Wib yn Sweden yr Athro Dafydd Jenkins neu Yr Afal Aur, llyfr Mr. Gerald Morgan ar y Dwyrain Canol, wedi dilyn eu gweithiau hwy. Y mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau taith hyn yn canolbwyntio ar wledydd neu ardaloedd arbennig. Yn y llyfr hwn, fodd bynnag, y mae R. Emrys Jones yn ein harwain trwy ei bymtheg hoff ddinas, dinasoedd a leolir dros y byd: yn Ewrop, yn y Dwyrain Canol yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau. Y mannau a ddewiswyd ganddo yw Dulyn, Glasgow, Caeredin, Paris, Copen- hagen, Amsterdam, Bonn, Milan, Barcelona, Helsinki, Petrograd, Jeriwsalem, Istanbul, Cairo a Detroit. Y mae'r dewis yn gatholig: nid prifddinasoedd na dinasoedd sydd fwyaf nodweddiadol o'u gwledydd ydynt. Er enghraifft, Detroit, canolfan diwydiant moduron, yw'r unig ddinas Ameri- canaidd a ddisgrifir, ac o holl ddinasoedd prydferth yr Eidal, Milan ddiwydiannol yn unig sydd yn cael sylw gan Mr. Jones oher- wydd iddo deimlo gwefr o syllu ar gampwaith Leonardo da Vinci.