Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bydd haneswyr y dyfodol yn gallu ateb y cwestiwn! R. TUDUR JONES Bangor MEURIG WALTERS (gol.), Yr Ail 'Storm' gan Islwyn (Caerdydd. Yr Academi Gymreig. 1990). Pan glywais am farw'r Parchedig Evan Meurig Watlers daeth imi'r tristwch a'r hiraeth na ddônt ond ar ôl colli hen gydnabod a hen gyfaill. 'Roeddem wedi ein cydfagu yn yr un pentref, Gwauncaegurwen, ac wedi ein codi'n ymgeiswyr am y weini- dogaeth yn yr un eglwys, M.C., ac er bod ein llwybrau wedi pellhau oddi wrth ei gilydd gyda theigl y blynydd- oedd, 'roeddent wedi agosáu eil- waith yn y cyfnod diweddar, yn rhannol oherwydd fod diwedd y daith yn atgoffa dyn o'i dechrau, ond yn bennaf oherwydd ei fod ef ar ôl ymddeol o'r weinidogaeth wedi cael cyfle i ailafael o ddifrif yn ei ddiddordebau academig a llenyddol. 'Roedd anian y llenor yn gryf ynddo o'r dechrau ac nis mygwyd gan fagad gofalon bugail na chan gwrs o afiechyd ac ambell drychineb per- sonol. Ysgrifennai'n weddol gyson i'r wasg leol Saesneg, ond yn y Gymraeg yr oedd fwyaf cartrefol ac ynddi hi y gwnaeth ei waith gorau o ddigon. Mae'r hiwmor sych a'i nodweddai fel person i'w glywed yn ei dair nofel Cymylau Amser Diogel y Daw a Tu ôl i'r Llenni. Enillodd radd MA yng Ngholeg Caerdydd am draethawd ar 'Astudiaeth destunol a beirniadol o "Storm" Islwyn' a gwnaeth Islwyn yn brif destun ei ymchwil dros y blynyddoedd. Cy- hoeddodd erthyglau tra phwysig arno. Un o'r cyfryw yw'r erthygl a gy- hoeddodd ar 'Fywyd Islwyn' yn Y Traethodydd am 1969. Gwa- hoddwyd ef i lunio llyfryn ar y bardd yng nghyfres Writers of Wales ond rhwystrwyd ef gan afiechyd. O dan yr amgylchiadau y rhyfeddod yw ei fod wedi gwneud cymaint. Cyhoedd- odd ei olygiad Y 'Storm' Gyntaf gan Islwyn yn 1980 a'i Islwyn Man of the Mountain yn 1983. A dyma'n awr, ar ôl ei farw, gyhoeddi ei olygiad o YrAil 'Storm' gan Islwyn. I'r Athro Bobi Jones y mae'r diolch am achub llawysgrif y golygiad hwn rhag mynd ar ddi- fancoll. Ato ef yr oedd Meurig Walters wedi troi ar ôl penderfynu ennill gradd Ph.D. ar y gwaith chwanegol a wnaethai ar y bardd yr oedd wedi tra ymserchu ynddo. Ni a allasai fod wedi mynd at neb gwell oblegid mae gan yr Athro yntau ddiddordeb ysol y.n yr un bardd, a da yw deall ei fod ef ar fedr cyhoeddi ei astudiaeth ohono mewn cyfrol ar y traddodiad cyfriniol yn ein llen- yddiaeth. Dywedais ei fod yn rhyfeddod fod Meurig Walters wedi gallu cyhoeddi cymaint. Y rhyf- eddod llenyddol ac academig mwyaf yng Nghymru'r ugeinfed ganrif yw'r Athro ei hun. Drwy ofalu am gyhoeddi'r golygiad hwn mae wedi chwanegu unwaith eto at y cym- wynasau lu a wnaeth â ni. Mae'n eironig fod cymhlethdod gwaith Islwyn wedi ei gymhlethu ymhellach gan ddirgelwch y ddwy 'Storm', ond bellach mae'r dir- gelwch hwnnw wedi ei ddiddymu. O hyn ymlaen mae'r ddwy o flaen y beirniaid a'r darllenydd yn noeth- lwm fel yr ysgrifennodd eu hawdur hwy onid fel y bwriadodd eu cyhoeddi, ond nid oes rhaid wrth ddawn proffwyd i ragweled dad- leuon eraill yn codi o hyn ymlaen ynglyn â hwynt. Mae argoel o un ddadl yn 'Rhagair' yr Athro Bobi Jones, sef y ddadl pa un o'r ddwy 'Storm' yw'r orau. Fel y dywed yr Athro, yr ail yw'r orau yn ei farn ef, ond y gyntaf yw'r orau ym marn golygydd y ddwy. Dadl arall, wrth gwrs, fydd y cwestiwn, beth yw