Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau lwybr T. Gwynn Jonet Roedd gan T. Gwynn Jones ddau lwybr llenyddol i ddewis rhyng- ddynt, ac fe ellid dadlau iddo ddewis yr un anghywir. Y ddau lwybr oedd rhamantiaeth a realaeth. Ar un olwg dydyn nhw ddim mor bell â hynny oddi wrth ei gilydd. Yn wir, efallai mai dwy ochr yr un geiniog ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae'r artist rhamantaidd, yn amlach na pheidio, yn methu â dygymod â realiti'r byd hwn. Caiff ei lethu gan amherffeithrwydd y real, ac fe grea fyd dychmygol sydd fel petai'n rhagori ar y real, byd sydd fel arfer yn wyllt, naturiol a chyntefig, yn llawn teimladau byrlymus (megis nwyd serch ar y naill law, neu nwyd crefyddol ar y Hall), ac yntau'r artist yn rhydd i foddio'i ddychymyg yn hytrach na dioddef cyffredinedd poenus y real. Fel hyn y mynegodd T. Gwynn Jones y peth yn 'Gwlad y Bryniau': Mwyn ni bydd man y byddom, Mwyna byth y man ni bôm! (Caniadau, 41) Fe'i herwgipiwyd yntau gan ei ddychymyg i fyd ei freuddwydion. Dyna pam yr aeth Myrddin, yn y gerdd 'Broseliawnd', i'r fforest ddychymyg a chael ei garcharu dan ei hud ei hun: Nwyd anfarwol y bardd am harddwch, Syberw dywyniad ysbryd awenydd Heb na bwriad na diben i'w beri Onid bod erddi wneud byd o harddwch! (Caniadau, 76) Mae'r artist rhamantaidd, felly, yn ei weld ei hun fel bod uwch- raddol, sydd â dawn honedig i drosgynnu hagrwch y byd hwn a chyrraedd y gwynfyd hardd y tu hwnt. (Does dim rhaid iddo fod nac yn hardd nac yn dda o angenrheidrwydd chwaith, gan nad moesoldeb syml sy'n ei reoli. Fe all fod yn beryglus o drachwantus a phechadurus. Y peth pwysig yw nad yw nac yn normal nac yn