Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saunders Lewis a Marcsiaeth Mae syniadau'r diweddar Saunders Lewis, yn enwedig ei syniadau am bleidiau'r dde a'r chwith yn dal yn fater trafod a dadlau yng Nghymru, fel y dangosodd darllediad yr Athro Gwynn A. Williams a'r ymateb iddo, a phrin y mae angen ymddiheuro am ailgyhoeddi'r anerchiad hwn o'i eiddo. Darganfu'r Dr. Iestyn Daniel yr anerchiad yn Llawysgrifen Saunders Lewis ymhlith papurau ei fam. Tybiodd i ddechrau nad oedd yr anerchiad wedi ei gyhoeddi a pharatoes gopi teipiedig i'w gyhoeddi gyda chennad merch Saunders Lewis, Mrs. Mair Jones, yn Y Traethodydd. Darganfu'n ddiweddarach fod yr anerchiad wedi ei draddodi yng Nghynhadledd Sir Gaernarfon y Blaid ar 26 Chwefror, 1938, a'i fod wedi ei gyhoeddi yn Y Ddraig Goch, rhifyn Mawrth, tt. 12, 14, rhifyn Ebrill, tt. 9-10, a rhifyn Mai, tt. 12-14. Bu'r Dr. Iestyn Daniel mor garedig â chodi'r anerchiad o'r Ddraig Goch a'i anfon i mi. 'Rwyf yn dra diolchgar iddo am ei gopi, a'r un mor ddiolchgar i Mrs. Mair Jones am ei chaniatâd i ni ei gyhoeddi. Codaf rai o sylwadau'r Dr. Daniel ar yr anerchiad cyn iddo ddarganfod ei fod wedi ei gyhoeddi. Un o'r pethau sy'n rhoi gwerth arbennig ar yr astudiaeth hon, yn fy marn i heblaw, wrth gwrs, ei hawduriaeth yw ei bod fel y dywed yr awdur, wedi ei seilio'n uniongyrchöl ar ysgrifeniadau sylfaenwyr Marcsiaeth eu hunain — Marx, Engels, Lenin a Stalin. Nid y disgwylid dim llai gan wr o anian Saunders Lewis, ond a chymaint o draethiadau a thraethodau ar Farcsiaeth yn yr ugeinfed ganrif yn tynnu ar esboniadau a dehongliadau ohoni gan eraill, a'r rheini eu hunain yn am1 yn ail-law, peth prin, a pheth i'w groesawu, yw'r annibyniaeth hon, a'r canlyniad yw ein bod yn cael goleuni newydd ar faes sathredig a thipyn o ddatguddiad, efallai, i rai fydd darllen am, e.e., eilunaddoliaeth