Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyfel Cyfiawn? Daeth rhyfel y Culfor i ben. Mynegwyd safbwyntiau gwahanol ynglyn â chyfiawnder yr ymgyrch, hyd yn oed gan Gristnogion. Honnodd ein harweinwyr gwleidyddol fod y rhyfel yn gyfiawn. Ni ddylid disgwyl iddynt hwy ddweud dim yn wahanol gan eu bod am gyfiawnhau eu penderfyniadau. Clywyd hefyd ambell riant trist a gollodd blentyn yn yr ymrafael yn datgan fod y rhyfel yn gyfiawn. Diau fod y fath gred yn gymorth i'r cyfryw ddod i delerau â cholled enbyd. Ond a all rhyfel o gwbl fod yn gyfiawn o gofio'r holl erchyllterau a'r cyflafanau a'r dioddefiadau sy'n anochel rwym wrth ryfel? Gofynnwyd y cwestiwn hwn droeon dros y canrifoedd a rhoddodd rhai o feddylwyr mwyaf y traddodiad Cristnogol eu sylw iddo. Mae'n gwestiwn dirdynnol, a bu diwinyddion a moesegwyr Cristnogol yn ddidwyll ymgodymu ag ef. Cododd y broblem gyntaf yn y cyfnod Cristnogol yn y bedwaredd ganrif pan gafodd Custennin, yr Ymerawdwr Rhufeinig, dröedigaeth i'r ffydd Gristnogol. Yn sgîl hyn, cododd cwestiynau newydd ynglyn â pherthynas Cristnogion a gwladwriaeth, ac yn eu plith y broblem o geisio cysoni gweithredoedd rhyfelgar gwladwriaethau ag efengyl Crist. Awstin Sant oedd un o'r cyntaf i geisio dod i'r afael â'r mater. Ceisiodd roi ystyr penodol i'r cysyniad o ryfel cyfiawn drwy osod amodau i'r defnydd ohono. Ni ellid galw unrhyw ryfel yn gyfiawn onid oedd yn cwrdd â'r amodau hyn. Yn raddol dros y canrifoedd, datblygodd y ddamcaniaeth o ryfel cyfiawn. Ac erbyn hyn cysylltir enwau pobl megis Tomos o Acwin a Grotius yn anad neb â'r ddamcaniaeth. Wrth gwrs, bu'r Eglwys Babyddol yng nghanol y trafodaethau. I raddau helaeth ei phroblem hi ydoedd ar y cychwyn; yn ddiweddarach, daeth hi'n broblem i'r eglwysi gwladol oblegid eu cysylltiadau agos a ffurfiol â gwladwr- laethau. Rhoddodd yr Eglwys Babyddol gryn sylw i'r cysyniad mor ddiweddar â Fatican II. Ond er mai yng nghyswllt perthynas yr eglwys a'r wladwriaeth y cododd y broblem gyntaf, y mae bellach yn broblem