Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. ELWYN HUGHES, Nid am un Harddwch laith: Rhyddiaith Gwyddoniaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1990) tt.xii, 194. Nid o'm bodd yr ymgerais ag ad- olygu'r llyfr anarferol hwn. Gol- ygydd Y Traethodydd a'm cym- hellodd (gan wybod imi fod yn aelod brwd, opiniynus, a dadleugar o bwyllgorau bathu geiriau) i daro golwg ar y llyfr; a dyna fi wedi fy machu. Cymysgedd o ymatebion, fodd bynnag, yn hytrach nag adolygiad trefnus, a geir yma. I ddechrau, dyna'r atgof a ddeffrowyd gan y darn o Hanes y Ddaear a'r Creaduriaid Byw, cyf- ieithiad R. E. Williams o lyfr Oliver Goldsmith, sy'n atodiad ar ddiwedd y gyfol hon. Roedd copi o'r cyf- ieithiad hwnnw yng nghartref modryb i mi, a byddem yn ei fodio gyda blas pan oeddwn i'n fachgen saith oed. Ond yr hyn sy'n aros yn fy nghof yw'r drafferth yr aem iddo i gael gafael ar enw Saesneg rhyw greadur dieithr: gan mai geiriadur Saesneg-Cymraeg Silvan Evans oedd yr unig eiriadur yn y ty, trwy ddull trial and error y byddem yn gorfod gweithio — yn aflwyddian- nus yn ddigon aml. Daeth llyfr Adolygiadau Goldsmith a Geiriadur Silvan Evans i'm meddiant i ym mhen blynyddoedd, ac mae cynigion Silvan wedi bod yn awgrymog wrth geisio cyfieithu i'r Gymraeg; ond yn y dyddiau diwethaf hyn yr edrychais gyntaf ar lyfr Goldsmith, ac addo i mi fy hun y byddaf yn pori'n hamddenol ynddo ryw ddydd. Ac efallai mai yn hyn y mae arwyddocâd fy atgof am lyfr Goldsmith: fod gennym yn y dyddiau hynny ryw deimlad nad oeddem wedi deall ffenomen nes gwybod sut i'w enwi yn Saesneg, ac nad yw'r teimlad wedi llwyr ddiflannu eto. Wedyn daw'r sylw a roddwyd yn Rhagymadrodd Dr. Hughes i'r hen fyth fod yr enwau Cymraeg traddod- iadol ar rifau yn rhwystr i drafod mathemateg yn Gymraeg. Sonnir am Hugh Hughes (Tegai) yn dadlau dros fabwysiadu'r dull degol o rifo, ac 'i gadarnhau ei ddadl dangosodd mai pum sill sydd i 199 (hundred ninety nine) yn Saesneg tra bod gan y Gymraeg ("hen ddull") tair sill ar ddeg (pedwar ar bymtheg a phedwar ugain wedi'r cant)'. Mae gosodiad Tegai yn anwiredd: ni ddywedaf ei fod yn gelwydd, gan na wn ai anonest ai twp oedd Tegai; ond ni chlywid y ffurfiau a ddyfynnir gan Sais na Chymro. A hundred and