Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gagendor honedig rhwng y Ddau Ddiwylliant wrth gynhyrchu'r llyfr tra arbennig hwn. DAFYDD JENKINS D. J. BOWEN (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog, (Gwasg Prif- ysgol Cymru, 1990), Pris: [14.95. Campaith yw llafur y llyfr hwn. Rhaid diolch i'r Athro Bowen am dorchi llewys mor llwyddiannus uwchben canu Gruffudd Hiraethog. Yn sicr ni fydd angen i neb am amser maith chwilio Gruffydd o'r newydd. Y mae'r Rhagymadrodd yn taflu ffrwd o oleuni ar Gruffudd Hir- aethog a'i waith. Gwr bychan o gorffolaeth ydoedd Y bardd bach uwch beirdd y byd', yn ôl llinell agoriadol marwnad gampus Wiliam Llyn. Yr oedd yn canu yn fuan wedi eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523 hyd 1564. Enwir Mawd y Glyn fel mam Gruffudd yn t.128. Ond nid oes gofnod o enw gwraig Mathew, tad Gruffudd, os bu'n briod o gwbl. Hanfyddai Gruffudd o Langollen ac nid o Lansannan fel y tybid gynt. Yn eglwys blwyf Llangollen y'i claddwyd yn ôl Wiliam Cynwal a Wiliam Llyn, dau o'i gyn-ddis- gyblion. Hyd y gellir barnu perthyn- as arbennig Gruffudd â theulu Plas Iolyn ger Pentrefoelas a gyfrifai am ei enw, ac yn wir Gruffudd oedd olynydd naturiol Tudur Aled a fuasai farw yn fuan wedi eistedd- fod gyntaf Caerwys fel bardd teulu i Elis Prys. Dywedir nad oedd wedi graddio yn eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523 a gwelsom ei fod wedi marw cyn yr ail eisteddfod a gynhaliwyd yno yn 1567. Dywed Wiliam Cynwal yn ei farwnad i Ruffudd iddo farw'r Sulgwyn 1564, sef ar Fai 21. Nid erys unrhyw dystiolaeth ddarfod i Ruffudd gael ei hyfforddi gan Tudur Aled a oedd wedi ei gadarn- hau fel athro cadeiriog yn eisteddfod 1523. Eithr Gruffudd Hiraethog oedd ei olynydd naturiol fel prif ffigur ymhlith Cywyddwyr y Gogledd rhwng dwy eisteddfod Caerwys. 'Ail Dudur Aled ydoedd,' ebe Syr Owain ap Gwilym wrth ei farwnadu. Pan gafodd Gruffudd ei warant fel disgybl pencerddaidd yn 1545/6 fe'i disgrifir yno fel disgybl i Lewis Morgannwg. Awgrymir gan yr Athro Bowen mai yn neithior ail briodas Huw Lewis o'r Plas Mawr yn nhrefgordd Tre'rdelyn yn Sir Faesyfed yr enillodd Gruffudd ei radd fel disgybl pencerddaidd. Yn ôl Lewis Dwn yr oedd Lewis Morgan- nwg yn un o'r prif arwyddfeirdd, a thebyg felly mai ef a roddodd Ruffudd ar ben ei ffordd mewn maes yr enillodd gymaint o fri ynddo. Penodwyd Gruffudd yn is-herodr dros Gymru hefyd ond nid yw'r dyddiad pryd yn hysbys. Dengys yr Athro mai gwedd bwysig iawn ar yrfa Gruffudd oedd yr hyn a gyflawnodd fel athro barddol. Ei ddisgyblion oedd Wiliam Llyn, Owain Gwynedd, Simwnt Fychan, Siôn Tudur, Wiliam Cynwal, a Siôn Phylip. Yr oedd Owain Gwynedd, Simwnt Fychan a Wiliam Llyn wedi graddio yn benceirddiaid yn ail eisteddfod Caerwys yn 1567 a'r tri arall yn ddisgyblion pencerddaidd. Disgybl arall iddo oedd Lewys ab Edward a enillodd radd pencerdd yn 1567. Yn ddiddorol iawn dywedir mai Gruffudd hefyd oedd athro barddol swyddogol Richard Davies pan oedd yn Esgob Llanelwy (1558-61). Ceir tystiolaeth iddo fynd â'i ddi- sgyblion i neithiorau fel ym mhlasau Rhiwedog a Rhiwlas yn Llanfor. Yn ôl tystiolaeth un englyn credir fod Gruffudd yn cynnal dosbarthiadau ar gyfer ei gywion gyda'i gilydd ac nid yn eu hyfforddi fesul un ar y tro. Awgrym diddorol iawn yr Athro Bowen wedyn yw gan