Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bardd o'u gweithiau. Dywedais ar ddechrau'r adolyg- iad hwn mai Gwyn Thomas a Pennar Davies a ddaeth agosaf at gydnabod synnwyr digrifwch R. S. Thomas. Y beirniad a barodd i mi chwerthin yma yw golygydd y gyfrol, M. Wynn Thomas, sy'n agor ei ysgrif ardderchog ar 'Agweddau ar Farddoniaeth y Chwedegau' drwy ddyfynnu o ddarn o hunangofiant a gyhoeddwyd gan y bardd yn Y Llwybrau Gynt (2) yn 1972. Ynddo y mae'r hunangofiannydd yn cofio dau beth a ddaeth i'w ran mewn parc pan oedd yn grwt bach, gweld offeiriad yn syrthio i lyn a theimlo gwybedyn du yn mynd i'w drwyn. Yr hyn y mae Wynn Thomas yn ei wneud wedyn, ymhlith pethau eraill, yw dosbarthu rhai o gerddi'r bardd yn ei fan yn gerddi 'cymh- lethdod yr offeiriad diflanedig' ac yn gerddi 'cymhlethdod y gleren ddu'. Mor gymen! mor addas bryfoclyd! Ar d.32 mae Wynn Thomas eto'n bryfoclyd wiw ­- yn dweud y byddai'n 'hynod ddi- ddorol' cymharu a chyferbynnu 'A Welshman at St. James's Park' R.S. a 'Nant y Mynydd' Ceiriog: beirdd oddi cartref yn gwneud cân ydyw'r ddau yn y ddwy gerdd, meddai. Ond nid yw gofod yn caniatáu na chymhariaeth na chyferbyniad. Olygydd hyglod Y Traethodydd, beth am wahodd M. Wynn Thomas i gyflawni'r dasg yn y gofod y gall y cylchgrawn hwn ei roi iddo? DEREC LLWYD MORGAN Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth 0 J. PADEL, A Popular Dictionary of Cornish Place-Names (Alison Hodge 1988). Bu Arolwg Enwau Lleoedd Cernyw yn rhedeg ers rhai blynyddoedd bellach, wedi'i noddi a'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Cernyw a Phrifysgol Exeter. Cymrodor Ym- chwil Enwau Lleoedd yw Oliver Padel yn Institute of Cornish Studies y Brifysgol yn Redruth, lle mae canolfan yr Arolwg. Fel arfer, o gyhoeddi cyfrol wrth gyfrol, araf iawn yw'r broses o gyhoeddi arolwg cyflawn o enwau lleoedd unrhyw sir. Cymerodd Oliver Padel y cam anghyffredin o gyhoeddi ei Cornish Place-Name Elements yn 1985 fel cyfrol gyntaf Cernyw. Yr English Place-Name Society yw'r cyhoeddwyr. Dyma'r tro cyntaf i'r gymdeithas ddylan- wadol hon fentro i wlad Geltaidd ac yr oedd cyhoeddi Cornish Place- Name Elements yn gyfraniad pwysig i ysgolheictod Celtaidd, trwy roi bodolaeth i restr ragorol o elfennau Cernyweg a hynny ymhell cyn y cyhoeddir cyfrolau cyflawn o'r Arolwg ymhen amser. O leiaf mae'r elfennau bellach ar gael, yn gymorth i bawb; gall gweddill yr Arolwg fyned rhagddo yn ei bwysau. Gwaith mwy nag oes un dyn yw cwblhau unrhyw arolwg sirol. Ar sail Arolwg Cernyw a deunydd Cornish Place-Name Elements fe gyhoeddwyd y Popular Dictionary of Cornish Place-Names. Dewiswyd dros 1,000 o enwau lleoedd ar fap OSÍ4 1982. Yn y Rhagarweiniad a anelwyd at y lleygwr ceir disgrifiad o fethodoleg astudio enwau lleoedd a thrafodaeth ar arwyddocâd sillafu, etymoleg poblogaidd ac enwau personol, ac adran fer ar yr ieithoedd a welir yn yr enwau (Cernyweg, Ffrangeg a Saesneg). Yng nghorff y Geiriadur wedyn y mae swp o wybodaeth wedi'i grynhoi'n ddarllenadwy. Dyma ddau enw lle wedi'u dewis ar hap i gynrychioli manylder ac amrywiaeth y drafodaeth o bob enw lle.