Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dechrau amryw bethau. Mi dybiais droeon nad annoeth o beth i mi fuasai treulio peth o'm hamser yn awr ac yn y man yn ysgrifennu hanes dynion a phethau fel y gwelais i hwy, nid, yn sicr, er mwyn lladd amser, oherwydd y mae hwnnw'n marw o dan fy nwylo bob munud, a llawer iawn o orchwylion yn aros am eu cyflawni; ond yn hytrach er diddordeb, a pheth budd efallai, i rai a ddêl ar fy ôl. Megis y cefais i ac eraill lawer o hwyl ar ddarllen dyddiadur William Bulkley o'r Brynddu, Llan- fechell, Môn, felly efallai y caiff rhywun bleser wrth ddarllen y sylwadau hyn. Llawer gwaith y teimlais y carwn gael manylion syml am fywydau dynion fel Griffith Robert, neu John Davies Mallwyd neu Forisiaid Môn, nid ganddynt hwy eu hunain, ond gan ryw frawd siaradus a'u hadnabu'n dda yn y cnawd, cael gwybod y ffeithiau a ystyrir yn rhy ddibwys i'w croniclo fel rheol, megis eu hymddangosiad allanol, eu hymddygiadau o dan wahanol amgylchiadau, eu dywed- iadau ffraeth neu ffôl mewn gair, yr holl fanion hynny sy'n rhoi i ddynion eu personoliaeth. Ac er mwyn rhoi i'r oes a ddêl y manion hyn am y sawl a adnabûm i yr ysgrifennaf yr ychydig nodiadau yr wyf yn awr yn eu dechrau. I gychwyn, myfi fy hun. Ganed fi ym Mryn Awel, Carmel, Arfon, y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Awst (a hwnnw'n Sul) yn y flwyddyn 1904. Yr oedd yn Ddiwygiad crefyddol ar y pryd, y diwethaf a welwyd, hyd yn hyn, beth bynnag, ac a barnu wrth ragolygon a chyflwr crefydd Cymru ar hyn o bryd, nid yw'n debyg y gwelir un arall y rhawg. Pethau pur ryfedd, yn ôl a glywais, oedd y Diwygiadau gynt, a da gennyf ar ryw ystyr fuasai bod wedi gweled un ohonynt. Dynion a merched yn gweddïo ar draws ei Ymddeolodd Thomas Parry o'i swydd fel prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ym 1969, a dychwelyd i Fangor i fyw. Yn fuan wedyn, dechreuodd ysgrifennu ei hunangofiant, a dyma'r bennod gyntaf. Yn anffodus, bu gormod o alwadau ar ei amser, a bu raid iddo roi'r gorau i'r bwriad o ysgrifennu rhagor na'r bennod hon. — ENID PARRY.