Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gomer Morgan Roberts (1904-1993) Fy hen athro, Meurig Evans, y geiriadurwr diflino a phennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, â'm cyflwynodd i Gomer Morgan Roberts gyntaf, a hynny yng ngwyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1970 a gynhaliwyd yn y dref ar Orffennaf 12, 1969. Da y cofiaf, i'r mis Gorffennaf hwnnw fod yn un eithriadol o gyffrous imi. Bu'r arwisgo yng Nghaernarfon ychydig ddyddiau cyn hynny, trefnwyd i fab y frenhines fynd ar daith trwy Gymru i ymweld â'i 'ddeiliaid', a phasiodd ef a'i osgordd drwy dref Rhydaman un prynhawn myglyd yn ystod yr wythnos ganlynol. Rhoes O. J. Evans, prifathro'r ysgol, a brodor o Langefni, na chlywais air o Gymraeg ganddo erioed rhoes orchymyn pendant i'w ddisgyblion sefyll yn rhesi ar balmantau'r prif strydoedd, pob un â'i faner yn ei law yn barod i estyn croeso i Charles Windsor. Gwrthodais i a dau o'm cyd-ddisgyblion ufuddhau i'w orchymyn i ymuno yn y rhialtwch, ac fe'n ceryddwyd yn llym gan neb llai nag Orlando Evans, y dirprwy brifathro (coffa da amdano), pan welodd yntau ni'n loetran yn un o goridorau'r ysgol. 'Cerwch sha thre 'te', oedd ei orchymyn inni, a dyna a wnaethom, wrth gwrs. Ond sôn yr oeddwn am yr wyl gyhoeddi yn Rhydaman y mis Gorffennaf tesog hwnnw. Yr oedd honno'n wyl i'w chofio, oblegid penderfynodd rhai o garedigion yr Eisteddfod yn y dref gynnal garddwest fawr ar lawntiau'r Ysgol Ramadeg a oedd o fewn ergyd carreg i gylch yr orsedd. Yr oeddwn eisoes wedi dechrau magu diddordeb mewn llyfrau erbyn hynny a newydd ddarganfod siop lyfrau ail-law enwog Ralph yn Abertawe. Darllen erthygl ddifyr Gomer Roberts ar y siop a'i pherchennog hynod yn rhifyn mis Ionawr 1968 o Barn â'm harweiniodd yno gyntaf. Ymhlith y stondinau a godwyd ar lawntiau'r ysgol yn yr arddwest honno, yr oedd un stondin arbennig iawn a oedd yn drymlwythog gan lyfrau a chyfrolau ail-law o bob math. Dichon mai ar y prynhawn dydd Sadwrn hwnnw y