Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa nabl, pa dabwrdd, pa gân? Pwy fydd yma 'mhen can' mlynedd, Pwy fydd yma'n ledio'r gân? Mae'n debyg fod gan y Celtiaid o'r dechrau oll ddawn arbennig i drin geiriau; 'roedd huodledd yn un o'u nodweddion amlycaf, meddir. Yn ôl Gerallt Gymro (hwnnw'n sgrifennu yn ystod y ddeuddegfed ganrif) 'roedd gan y Cymry ddawn gerddorol arbennig iawn hefyd. Pan fyddai'r Cymry yn ymgynnull i ganu'u caneuon traddodiadol, dywed Gerallt y byddent yn canu mewn cynghanedd; mae'n ddiddorol sylwi ei fod yn pwysleisio y canent mewn nifer o leisiau nid mewn dau lais fel y Saeson yng ngogledd Lloegr, meddai (dylanwad Cymy'r hen ogledd?), neu'r unsain a genid gan y Saeson a drigai yn ne Lloegr. A chadw mewn cof y fath gefndir, nid yw'n syndod fod twf a diddordeb mawr mewn canu cynulleidfaol wedi digwydd mewn ymateb i symbyliad y diwygiadau a welwyd yng Nghymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn belled ag yr oedd a fynno â'r canu cynulleidfaol, 'roedd yna gryn ddiffyg disgyblaeth a safon yn ôl pob hanes, ond o dipyn i beth dan arweiniad teulu John Mills (Llanidloes), Ieuan Gwyllt, Tanymarian ac eraill, daeth llewyrch ar bethau. Erbyn heddiw nid oes cymaint bri ar grefydda, ac mae'r Gymanfa Ganu a gyfrifid hyd yn ddiweddar yn rhan annatod o'r traddodiad Cymreig wedi dirywio. Y mae'n berffaith wir fod diddordeb mewn capel ac eglwys a 'phethau crefyddol' wedi cilio a bod nifer aelodaeth wedi lleihau'n ddirfawr, ond hyd yn oed ymhlith y gweddill ffyddlon ni cheir y fath frwdfrydedd ag a welwyd, dyweder, hanner canrif yn ôl. Hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny 11e gwelir y Gymanfa Ganu yn parhau i ffynnu, rhaid cyfaddef nad yw'r cynulleidfaoedd mor lluosog, ac ni welir y fath ymrwymiad i baratoi ag a fu yn y gorffennol. At hynny, nid yw'r ifanc wedi cynnal diddordeb, ac nid yw cynnal