Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Reinhold Niebuhr: Diwinyddiaeth gyfoes a chyfiawnder* Mae Niebuhr wedi beirniadu Luther am fethu dod â'r Athrawiaeth am Gyfiawnhad trwy Ffydd i berthynas â dimensiwn cymdeithasol bodolaeth ddynol. Dengys y feirniadaeth hon mor awyddus ydoedd Niebuhr i gyflwyno'r ffydd hanesyddol glasurol Gristnogol mewn ffordd a roddai i ddyn adnoddau a gweledigaeth i wynebu cym- hlethdodau a phroblemau'r cyfnod presennol. Mae'r gofal yma am gyfiawnder yn ei gwneud yn amhosib deall ei syniad am gyfiawnder heb edrych arno yng nghyd-destun rhai o'r tueddiadau a'r meddylwyr yr ymatebodd iddynt. Tuedd y ddiwinyddiaeth ddilechdidaidd, er enghraifft, oedd ei chau ei hun i mewn yn yr Eglwys, ond mae diwinyddiaeth Niebuhr yn troi ac edrych allan ar y byd. Er bod Niebuhr yn feirniadol o'r ddiwinyddiaeth ryddfrydol, cadwodd ei gonsyrn cymdeithasol, a oedd yn nodweddiadol o'r meddwl crefyddol Americanaidd, a beirniadu'r ddiwinyddiaeth sy'n gwneud Crist- nogaeth yn ddi-hid ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn y byd. Mae Alec Vidler yn dweud bod Niebuhr wedi dangos iddo'r camgymeriad o gymryd oblygiadau cymdeithasol y ffydd Gristnogol fel rhai delfrydol, iwtopaidd ac ymberffeithiol. Meddai am Niebuhr, Dangosodd, trwy ei sylwadaeth ar faterion cyfoes a'i ddadansodd- iad o fudiadau cymdeithasol a gwleidyddol, fod yna adnoddau yn yr athrawiaethau traddodiadol, cyfiawnhad trwy ffydd yn arbennig, i daflu goleuni ar wrthdaro a phroblemau seciwlar, adnoddau nad oeddwn i hyd yn hyn yn ymwybodol ohonynt a heb fod yn rhan o'r hyn a ystyriais i yn Gatholigiaeth Ryddfrydol, er na ddywed eu bod yn anghymharus.2 Seiliwyd, fwy neu lai, ar bennod o draethawd M.Th., 'Y Syniad o Gyfiawnder ym Meddwl Reinhold Niebuhr', ac fe'i traddodwyd yn Undeb Athronfa'r Bala, 12-13 Mai, 1987.