Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD IFANS (gol.), Annwyl Kate, Annwyl Saunders, Goheb- iaeth 1923-1983 (Llyfrgell Gened- laethol Cymru, Aberystwyth, 1992). Fel llawer un arall croesewais y newyddion fod llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts at ei gilydd wedi eu cadw i raddau helaeth a bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cyhoeddi a phan ymddangosodd y gyfrol mewn diwyg graenus a destlus cwbl nodweddiadol o waith cyhoeddi'r Llyfrgell bwriais ati i ddarllen y llythyrau yn gyntaf gan roi heibio am y tro f'arfer o ddarllen y rhagymadrodd i ddechrau. Cefais flas odiaeth ar eu darllen fel yr oeddwn wedi disgwyl. Wedi'r cwbl, dyma lythyrau dwy bersonoliaeth gref at ei gilydd a dyma drafodaeth gan ddau artist ymroddedig ar waith ei gilydd gydag ambell sylw wrth fynd heibio ar waith eu cyfoeswyr. Merciais y darnau mwyaf dadlennol a mwyaf arwyddocaol ac ambell sylw a oedd o fwy diddordeb i mi nag i'r rhelyw, megis disgrifiad K.R. o ysgol ramadeg Ystalyfera, fy hen ysgol i, fel 'uffern o ysgol'. Er tegwch â'r ysgol yr wyf i'n dra dyledus iddi, rhaid i mi ddweud nad dyna oedd hi i bawb. Yna troes at y rhagymadrodd a chael er mawr siom Adolygiadau i mi fod y golygydd deallus, di- wylliedig a goleuedig, fel y dylaswn fod wedi rhagweld, wedi achub y blaen arnaf ac wedi dyfynnu bron y mwyafrif o'r darnau yr oeddwn i wedi eu marcio ar gyfer eu crybwyll, ac wedi gweld eu harwyddocâd fel mai ofer i bob pwrpas fu fy ngwaith i hyd hynny. Ni allwn gynnig gwell adolygiad i ddarllenwyr Y Traethodydd na dyfynnu rhag- ymadrodd Mr. Dafydd Ifans ben bwy gilydd a bodloni ar ddiolch i'r Llyfrgell Genedlaethol, ei llyfr- gellyd, y Dr. Brynley Roberts, a Cheidwad ei llawysgrifau ar y pryd, Mr. Daniel Huws, am fod mor llygadog â phenderfynu cyhoeddi'r casgliad o lythyrau a thros- glwyddo'r gwaith o'u golygu i Mr. Ifans. Mae ei waith ef yn haeddu pob clod. Mi fuaswn i wedi croesawu 'sic' ar ôl ambell ffurf megis ar ôl 'cofiais' ar d.21 ac 'Eliott' ar d.129 rhag ofn i'r darllenydd dybio cam- gopïo, ond ni waeth am hynny. Mae arnom faich o ddyled i Mr. Saunders Lewis am ei wasanaeth enfawr a'i gymwynasau lu i ni fel Cymry. Nid y leiaf o'i gymwynasau oedd ei waith yn gweld camp storïau byrion K.R. cyn i odid neb arall wneud a chefnogi eu hawdur i ddal ati. Da y dywed y golygydd: