Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

7 often think I made a mistake in ever entering the pulpit.' (Dyfyniad o un o'i ddyddiaduron) Cerddi DR. HUGH CERNYW WILLIAMS 1843-1937 Gan Dduw na'm clywi heno o'r pell drigfannau fry,- nid clamp o gamgymeriad oedd cyrchu drws y Ty ac agor safndrwm enau dros Iesu, oes a fu. Glendid dy foes fu'r patrwm yng Nghorwen, dymor maith; dan rym dy lef fe rwydwyd gryn bedwar i'r un gwaith, a cherddaist yn heddychwr er gwaetha'r drin a'i chraith. Ac yn yr oedfa neithiwr â'th emyn ar ein min bu frwd ein diolchgarwch i'r Tad goruwch pob ffin, na byddai heb ei afon ond daear lom a chrin. Na, wir, bendefig hynaws yn y trigfannau fry, nid clamp o gamgymeriad oedd cyrchu drws y Tŷ ac agor safndrwm enau dros Iesu, oes a fu. JOHN EDWARD WILLIAMS