Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYFYRDOD NOS SADWRN Os Duw a'i myn, yfory fe af yn hy i'm taith, i agor eto'r 'Sgrythur i ffyddlon chwech neu saith. A'm gweddi yw nad doniau na thipyn dysg y byd yn unig a ganfyddont wrth wrando yno 'nghyd, ond gweld, heb gysgod amau, i mi adnabod Un sy'n noddfa, nerth a chymorth ar dolciog yrfa dyn, a'r gweld yn troi i'r dyrnaid, yn nhlodi mawr ein dydd, yn olud amhrisiadwy a sacrament y Ffydd. JOHN EDWARD WILLIAMS AMSER STORI Estynnaf lyfr ac eistedd ar erchwyn eu byd, hanner craffu rhwng dau olau ar y tudalen, ar dywyllwch geiriau, a'r geiriau fel cawod sêr yn disgyn o'u darllen i aer eu byd, yn cynnau uwchben yn rhwyll o ystyr ddiderfyn. Codi wedyn o'u hymyl a diffodd golau'r llofft, ac wedi cau o'u llygaid mae bydysawd oddi mewn, ac enaid adeiniog: yno mae sêr i'w gwahodd uwch lleisiau'r nos i fyd heb anghenraid geiriau lle mae iaith yn ddiymadrodd. CRIS JONES Llanllyfni