Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAMIDYDDION Uwchben y môr yn Harlech 'roedd ffenest gwesty'n ffrâm am awyr wag ac anial erwau dwr, a'r haul ar gil dan goncwest waed; y coch ar frig y tonnau dyfal fel gwead rhwyd ac ynddi'n gaeth bryddest o lamidyddion yn gloyw ymgynnal ym mydr y môr, yn fyw fel chwedl. Gwelais eu rhithiau llwyd yng nghroth y bae, awen yr eigion yn goferu uwch crychlais y tonnau. Ar derfyn dydd, dan wybren eithaf y byd, dychlamant yn ffwrnais dawdd y cread ysol hen anorffen. CRIS JONES Llanllyfni LLUN GAN CASPAR DAVID FRIEDRICH Ffigur, dyn mewn gwisg dywyll, gwargrwm yn y gwyll; canghennau du moel y coed yn rhedyn llwydrew ar y nefoedd ac uwchben y lleuad yn gron. M. T. BURDETT-JONES Aberystwyth