Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saunders Lewis Y mae'n debyg mai gorchwyl rhy uchelgeisiol fyddai ceisio trafod gwaith gwr mor gynhyrchiol ac amrywiol ei ddoniau â Saunders Lewis yn foddhaol o fewn terfynau un ddarlith.* Rhaid i mi ymfodloni ar alw sylw, yn ddigon anghyflawn a bylchog, at rai o brif nodweddion ei feddwl a'r hyn a gyflawnodd. Gan i mi fod yn gyd- ddarlithydd ag ef yng Ngholeg Caerdydd o 1952 hyd 1957, ac yn ei adnabod yn rhesymol o dda, bydd rhan o'r hyn sydd gennyf i'w ddweud yn bersonol ac yn oddrychol. Ond mi geisiaf hefyd asesu ei gyfraniad mewn nifer o feysydd mor wrthrychol ag y gallaf a bydd yn rhaid i'r gwrandawyr farnu i ba raddau y byddaf wedi llwyddo. Credaf mai yn 1927, pan oeddwn yn ddisgybl ysgol, y clywais gyntaf am Saunders Lewis. Wrth wrando ar bregeth gan y Parchedig John Hughes, gweinidog pur ddysgedig Capel Presbyteraidd Prince's Road, Bangor, y bu hynny. Cyfeiriodd John Hughes at y Llythyr Ynghylch Catholigiaeth a gyhoeddwyd yn Y Llenor (Haf, 1927) lle y beirniadodd Saunders Lewis Foderniaeth yn chwyrn ac y pwys- leisiodd rym yr ymwybyddiaeth o bechod mewn llenyddiaeth ac mewn bywyd. Ni wn i ba raddau y cydymdeimlai'r pregethwr â safbwynt awdur y Llythyr ond cofiaf yn dda am ei deyrnged i'w ddifrifwch a'i ddiffuantrwydd. Nid oeddwn mewn oedran ar y pryd i ddeall pynciau mor ddwfn. Yn ffodus i mi yr oedd fy nain ar ochr fy mam yn derbyn Y Llenor yn ogystal â'r Ddraig Goch, a olygid gan Saunders Lewis. Y mae'n sicr mai yn ei chartref hi yng Nghaergybi y deuthum gyntaf dan ei ddylanwad ac y derbyniais ei ddadl gyffredinol ynghylch statws Cymru. Ym Methesda y clywais ef yn areithio gyntaf, yn cefnogi'r Parchedig Lewis Valentine yn Etholiad 1929. Cyfarfûm ag ef gyntaf yn Awst yr un flwyddyn yn ystod Ysgol Haf y Blaid Darlith a draddodwyd yn Ysgol Ddeuddydd Flynyddol Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni Saunders Lewis.