Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anerchiad yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos adeg agor adeilad Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Y mae'r achlysur hyfryd hwn heddiw yn ddiwedd hen stori ac, fe obeithiwn, yn gychwyn stori newydd. Yn 1940 sefydlwyd Ysgol Astudiaethau Celtaidd fel rhan o Athrofa Uwchefrydiau Dulyn a bu hyn yn foddion i ennyn dyhead am Ysgol debyg yng Nghymru. Pan ymunodd Dr. Elwyn Davies â staff Cofrestrfa Prifysgol Cymru yn 1945, fel Ysgrifennydd y Cyngor, fe ddaeth sefydlu Ysgol o'r fath yn nod y gosododd ei fryd arno. Ddiwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau fe enillodd yn gydweithwyr yr Athro Griffith John Williams o Gaerdydd a'r Athro Thomas Jones o Aberystwyth y ddau ohonynt yn ysgolheigion mawr ac fe wnaed ymgais gyson drwy'r pumdegau a dechrau'r chwedegau drwy Fwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol i sicrhau arian ar gyfer y fenter. 'Roedd bri cynyddol Ysgol Dulyn, a'r ffaith fod gwledydd Celtaidd eraill erbyn hyn yn creu sefydliadau tebyg, yn hwb ychwanegol i'r ymgyrch. Yn anffodus, ni chafodd ymdrechion yr ymgyrchwyr yr adeg yma eu coroni â llwyddiant. Yn 1963 fe symudodd Elwyn Davies i'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth, fe fu Griffith John Williams farw'r un flwyddyn, a chyn hir yr oedd Thomas Jones yntau, ysywaeth, yn dioddef afiechyd cynyddol; ac felly fe ddarfu am yr ymgyrch. Yn 1970 fe benderfynodd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn ffurfiol na fyddai'n mynd â'r mater ddim pellach. O hyn ymlaen, cefais y fraint, yn gyntaf yn Aberystwyth ac wedyn fel Dirprwy Ganghellor, i ddilyn hynt a helynt yr anturiaeth. Yng nghanol y saithdegau, dyma'r Athrawon yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Aberystwyth, Syr Goronwy Daniel oedd yn Brifathro ar y pryd, yn cael caniatâd y Coleg i gychwyn apêl er mwyn coffáu'r llenor mawr hwnnw, Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975,