Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfraith, Moeseg Ddiwinyddol, Priodas ac Ysgariad Yn ei lyfr Law Liberty and Morality (1963, 1. 1 ), dywed yr Athro Hart y gall moesoldeb ddylanwadu ar y gyfraith, a'r gyfraith hithau ar foesoldeb. Amcan y drafodaeth hon yw sylwi'n fras ar ddylanwad y foeseg ddiwinyddol Gristnogol ar gyfraith Prydain Fawr ynglyn â phriodas ac ysgariad yn y ganrif ddiwethaf. Yna sylwi fel y mae'r ddeddf erbyn ein dydd ni wedi symud oddi wrth ragdybiaethau'r foeseg ddiwinyddol. O ganlyniad cyfyd gagendor rhwng y ddeddf gyfoes a'r foeseg ddiwinyddol draddodiadol, ac y mae hyn yn codi'r cwestiwn a ddylai diwinyddion ail ystyried y foeseg draddodiadol. Er mwyn gallu trin y pwnc yn hwylus oddi mewn i gwmpas byr, canolbwyntiaf ar y traddodiad crefyddol a etifeddwyd o'r Oesoedd Canol gan yr Eglwys Anglicanaidd, yr eglwys wladol yn Lloegr. Fel y dywedodd un diwinydd amlwg o'r ganrif ddiwethaf, 'By religion I mean Christianity and by Christianity I mean the doctrines of the Church of England'! Yn yr Oesoedd Canol arferid trin achosion ynglyn â phriodas ac ysgariad yn y llysoedd eglwysig — Ecclesiastical Courts ac yn y llysoedd hyn gweithredid yn ôl y ddeddf ganonaidd eglwysig, Canon Law, a luniwyd yn y 12 ganrif ac a dderbyniwyd gan yr Eglwys yn y Gorllewin. Gyda'r Diwygiad Protestannaidd etifeddodd Eglwys Loegr y ddeddf ganonaidd a'r foeseg ddiwinyddol a darddai o'r ddeddf hon. O amser y Diwygiad hyd at 1857, sef canol y ganrif ddiwethaf, fe benderfynid achosion priodasol yn llysoedd yr Eglwys, yn union fel yn yr Eglwys Orllewinol yn yr Oesoedd Canol. Yn 1857, gyda Deddf Ysgariad, daeth awdurdod a grym y llysoedd eglwysig i ben i bob pwrpas ymarferol ac o hynny ymlaen penderfynid achosion priodasol ynllysarbennigy Wladwriaeth a sefydlwyd o dan ddeddf 1857. O 1857