Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Testament Newydd, Argraffiad Diwygiedig (Gwasg Efengylaidd Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, 1991) Nid oes ond odid yr un maes oddi mewn i astudiaethau beiblaidd lle y gwelwyd mwy o newid ac o ddatblygiad yn ystod y ganrif ddiwethaf nag ym meirniadaeth destunol y Testament Newydd. Arweiniodd llafur dibaid ysgolheigion fel Tischendorf2 a grwydrodd yma a thraw yn Ewrop ac Asia yn y ganrif ddiwethaf i ddarganfod llawysgrifau at gyhoeddiadau megis testun Groeg Westcott a Hort, sail R.V. 1881.3 Ac er i'r Feibl Gymdeithas fod hytrach yn araf i dderbyn canlyniadau'r holl weithgarwch hwn, erbyn dechrau'r ganrif hon corfforwyd yr wybodaeth newydd hon yn y testun a baratowyd gan Eberhard Nestle a'i gyhoeddi yn 1904 gan y Gymdeithas.4 Yn wir ni fu'n arfer wedi hynny i unrhyw un yn y maes testunol geisio troi'r cloc yn ôl i'r cyfnod cyn 1881, ond yn hytrach adeiladwyd ar waith Westcott a Hort a mwynhawyd y rhin o gymathu'r wybodaeth a ddaeth yn gyson ar hyd y ganrif hon yn sgîl darganfod bron cant o ddarnau papurfrwyn sy'n cynnwys rhannau o'r testun Groeg. Ymgorfforwyd y dystiolaeth hon yn raddol yn yr argraffiadau diwygiedig o'r testun. Y mae llawer o'r papyri hyn, wrth gwrs, yn cynnwys y cofnodion hynaf sydd gennym o Roeg y Testament Newydd, e.e. Papyrus Llyfrgell John Rylands, Manceinion (p.52), yr hynaf un i'w ddyddio, tua 110-125, sy'n cynnwys Ioan 18: 31-4, 37-8.5 1 Defnyddir y talfyriadau canlynol yn yr ysgrif hon: B.C.N. Y Beibl Cymraeg Newydd, 1988. B.T. The Bible Translator. C.D. Y Testament Newydd: Argraffiad Diwygiedig, 1991 (Cyfieithiad Diwygiedig). E.T. The Expository Times. H.G. Y Beibl Cyssegr-Lan, 1620 (yr Hen Gyfieithiad). N.A. Novum Testamentum Graece: Nestle-Aland, 26fed. argraffiad, 1979. N.I.V. The New International Version. N.T. Novum Testamentum. N.T.S. New Testament Studies. R.V. The Revised Version of the Bible, 1881. T.M. Testun y Mwyafrif. T.R. The New Testament: The Greek Text Underlying the English Authorised Version of 1611 (Textus Receptus). U.B.S. The Greek New Testament (United Bible Societies), 3ydd argraffiad wedi'i gywiro, 1983.