Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cydwybod, Euogrwydd a Breuddwydion: Nodiadau ar Dostoiefsci 'Y mae llenyddiaeth,' medd yr Athro David Daiches, 'fel fforiad dyn i mewn iddo'i hun drwy oleuni artiffisial sy'n rhagori ar oleuni naturiol oblegid medrir ei gyfeirio i ba ble bynnag y mynnom'. Gellir cymhwyso'r diffiniad hwn yn arbennig at waith Dostoiefsci gyda'i chiaroscuro dieithr a'i ddarluniad apocalyptig o fyd sinistr, tywyll a ddatgelir megis gan chwilolau. 'Yr hyn a'i diddora,' meddai John Cowper Powys mewn ysgrif dreiddgar ar Dostoiefsci, 'fel obsesiwn ddwyfol-ddemonig, drwyddo draw yw dyfnderoedd eithaf daioni ysbrydol a drygioni ysbrydol yn yr enaid',2 a'u goleuo, yng ngeiriau trawiadol Nicholad Berdyaev, gan 'y goleu sy'n fflachio ar y ffin rhwng teyrnas y goleuni a theyrnas y tywyllwch.' Y mae chwilolau Dostoiefsci'n goleuo'r ddwy deyrnas fel ei gilydd, gan ddwysáu'r tywyllwch. Yn wir, fe ddaw'r prif bynciau tyngedfennol sy'n poeni'r ddynoliaeth, dan ei archwiliad craff: atheistiaeth a Christnogaeth, caethiwed a rhyddid hunanddinistriol y dyn modern. Nietzscheaidd a'i obsesiwn â grym a thrais, y tyndra rhwng agape ac eros (hwn yn enwedig), ing arteithio eros, a'r nemesis dychrynllyd ar ddyneidiaeth di-ben-draw sy'n arwain, fel y sylweddolai Berdyaev, at wrth-ddyn- eiddiaeth, a chanlyniadau seicolegol euogrwydd ac ymddatodiad personoliaeth. Geilw Powys Y Brodyr Karamazov yn 'bumedefengyl', a dyna, i raddau, ydyw: yr efengyl apocalyptaidd yn pwysleisio, fel y gwna'r Bedwaredd Efengyl, y gwrthdrawiad rhwng goleuni a thywyll- wch. Dadlenna drwy olygfeydd dieithr (ar letraws, megis) ymddygiad amlwg yn ogystal â dyfnderoedd cuddiedig yr enaid nes rhoi i ni gipolygon ar fyd tymhestlog a diffrwynedig yr isymwybod a pheri i ni ofyn a oedd Freud mor wreiddiol ag y tybir iddo fod. 'Roedd Dostoiefsci yn seicolegydd sythweledol a sylweddolai i'r eithaf