Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dymunaf â'm holl galon adnewyddiad bywyd a grym ac arswyd argyhoeddiad credo i'r holl enwadau hyn. A daw'r un parch i'r amlwg, ond ar ffurf fwy diriaethol, mewn llythyr a sgrifennodd at y Parchedig Lewis Valentine ar Hydref 7fed, 1971. Erbyn y flwyddyn honnó 'roedd Val, fel yr arferai Saunders Lewis ei gyfarch, wedi bod yn gweinidogaethu am hanner canrif a phwrpas y llythyr ato oedd ei longyfarch ar ei gyfraniad gwiw i fywyd crefyddol ei genedl. Wele ddyfyniad: Yr wyf wedi trefnu gydag Eirwyn Morgan i chi a Mrs. Val, eich dau, fod yn westeion i mi mewn cinio bychan mewn gwesty yn Llandudno gyda thri arall o'ch dewis chi ac Eirwyn Morgan i ddathlu'r hanner canrif yma. Myfi piau'r cinio er, sywaeth, ni fedraf fod yno. Peidiwch â gwrthod. Nid er eich mwyn chwi y gwnaf i hyn, ond i roi sbri am unwaith i ryw ddau neu dri o weinidogion na chânt nemor fyth gyfle i fod yn afradlon ar gyflogau na weithiai neb o'u cynulleidfaoedd am wythnos arnynt. Cewch chithau fod yn esgus i mi dalu hyn o deyrnged i alwedigaeth na chollais mo'm parch iddi o gwbl. Peidiwch chi na Mrs. Val â'm brifo i drwy wrthod. Mae mwy na pharch yma, onid oes? Mae yma, yn wir, hoffter cynnes o gymdeithas gweinidogion Ymneilltuol a oedd yn rhan o brofiad Saunders Lewis pan oedd ar aelwyd ei dad a phan ddaeth, yn ddiweddarach, yn ffigur amlwg ym mywyd gwleidyddol Cymru. Eithr y mae mwy nag ymlyniad emosiynol wrth gymdeithas gyfarwydd i'w ystyried fel un elfen yn agwedd Saunders Lewis at Fethodistiaeth, yn benodol, a rhaid troi rwan at ei ddehongliad ef o Ddiwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif. Nid yw'n ail i neb o haneswyr a chymdeithasegwyr Cymru yn ei bwyslais ar bwysigrwydd y diwygiad hwnnw, yn gymdeithasol, yn grefyddol ac yn llenyddol. Yn un o ysgrifau 'Cwrs y Byd' (Mawrth 12fed, 1941 ) aeth i'r afael â'r gwaith o amddiffyn y Sul Cymreig rhag symudiad o du'r llywodraeth ar y pryd i agor sinemâu a theatrau ar y Sul a chraidd yr amddiffyniad hwnnw yw arwyddocâd y Diwygiad Methodistaidd i fywyd Cymru gyfoes: Cynnyrch diwygiad crefyddol y ddeunawfed ganrif yw'r Sul Cymreig. Y mudiad hwnnw a luniodd gymeriad y genedl Gymreig fel y mae byth er hynny, ac y mae'r Sul yng Nghymru yn un o'n sefydliadau cenedlaethol ni. Y ffaith fod y Sul Cymreig yn gynnyrch mudiad modern pwysicaf y genedl Gymreig, yn cynrychioli elfen hanfodol ym modolaeth y genedl Gristnogol hon, dyna'r hyn a enillodd i Gymru'r hawl i gau'r tafarnau ar y Sul. Tŷ Dduw ac aelwyd y teulu, dyna gartrefi'r bywyd Cymreig erioed.