Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

etifedd diwinyddiaeth y Diwygiad Methodistaidd a'r hyn sy'n codi arswyd ar John Roberts yw fod Methodistiaid yn siroedd Dinbych, Fflint a Môn yn cyhuddo Thomas Jones o fod yn heretig. I'j: pregethwr o Langwm ymddangosai John Elias, gyda'i bwyslais ar yr Iawn Cytbwys a dylanwad aruthrol ei ddawn bregethwrol, fel un oedd yn bygwth undeb y Corff. Ar yr un ochr â John Roberts y mae William Roberts yntau, ond ei fod yn esbonio yn eglurach a llawnach bwysigrwydd Thomas Jones fel arweinydd i'r Corff. Â ef ati'n unswydd i ddatgan pam yr oedd y gwr mawr o Ddinbych yn dadlau mor ddygn yn erbyn carfan John Elias: yr oedd, meddai, am gadw'r Methodistiaid 'yn saff, yn nhraddodiad Eglwys Loegr Dyna pam y rhoddwyd llythyr Mr. Williams, Pentycelyn, yn llyfr cynta'r Drysorfa fel baner droson-ni'. Yn wir, mynn ymhellach mai Thomas Jones a argyhoeddodd Thomas Charles fod cyfiawnhad dros ordeiniad 1811 i'w gael yn Erthyglau Eglwys Loegr. Gwir, meddai, fod dull yr ordeinio yn wahanol i'r hyn ydoedd yn yr Eglwys Wladol ond eilbeth oedd hynny: Yr hyn a wnaeth Mr. Charles o raid oedd gosod y Gymdeithasfa yn esgob er mwyn inni aros yn rhan o eglwys weledig Crist yn ôl diffiniad Eglwys Loegr. Y mae gennym hefyd yn nes ymlaen yn y nofel (pennod VI) ddehongliad Thomas Jones ei hun o'r sefyllfa, a arhosai mor gythryblus ag erioed flwyddyn wedi iddo, i bob golwg, gael y llaw uchaf ar ei wrthwynebwyr yn Y Bala. 'Does dim amser rwan i fanylu ar gynnwys y sgwrs rhyngddo ef a'i gyfeillion ond rhaid nodi'n fyr dri pheth. (i) Ofna Thomas Jones weld rhwyg rhwng Methodistiaid y Gogledd a'u cymrodyr yn y de ond ofna'n llawer mwy weld rhwyg yn digwydd rhwng y Corff yn gyfan a chyfnod y Tadau; rhyngddo a Williams Pantycelyn, er enghraifft. (ii) Er bod William Roberts yn gadarn ar ochr Thomas Jones yn y ddadl ddiwinyddol mae'n amddiffyn John Elias rhag y cyhuddiad fod hwnnw am 'ddwyn anfri ar Fab Duw'. Llwydda i argyhoeddi Thomas Jones fod John Elias yn 'addoli'r un Ceidwad â chithau ac yn honni ei urddas anfeidrol o'. Yn ei dro mae Thomas Jones yntau'n cydnabod ei fod, ym mhoethder y frwydr, yn 'anghofio hynny weithiau' ac yn ymrwymo i gadw rhwymau cariad yn dynn rhwng brodyr er gwaethaf y dadleuon rhyngddynt. Mae sicrhau undeb y Corff yn ganolog i'w feddwl. (iii) Ond yr hanesydd a cheidwad y Ffydd sy'n llefaru'n groyw ar y diwedd. Ar ran ei gyd-Fethodistiaid cawn Thomas Jones yn datgan teyrngarwch i'r traddodiad Cristnogol; i egwyddorion y Ffydd honno (ac 'rwy'n mentro dehongli hyn yn y cyd-destun fel cred Saunders Lewis ei hun) na all unrhyw gangen benodol o Eglwys Crist ar y ddaear