Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sydd yn amodi gwerth ac ystyr y testun llenyddol; yn yr un modd, y ffurfiau llenyddol hynny sydd yn rhoddi ystyr i ddogmâu diwinyddol, a chan mor bwysig yw manylu ar y berthynas rhwng y ffurf destunol a'r sgraffaldwaith ieithyddol o fewn darn o lenyddiaeth grefyddol, gellir wedyn ddadansoddi arwyddocâd yr hyn a ddywedir. Mewn gwirionedd, gellir diffinio llenyddiaeth fel diwinyddiaeth mewn termau 'gweithredol' yn hytrach na thermau 'ontolegol', gan fanylu ar yr effaith y mae'r testun yn ei chael ar y darllenydd. Daw hyn â'r beirniaid llenyddol at y berthynas glòs sydd yn bodoli rhwng y cynnwys a'r ffurf. Yn wir, ni ellir dadansoddi cynnwys unrhyw ddarn o lenyddiaeth heb fanylu ar y fframwaith ieithyddol sydd yn amodi unrhyw fath o ystyr mewn testun llenyddol. Wedi'r cyfan, onid un o swyddogaethau pwysicaf llenyddiaeth yw mynegi rhywbeth am fywyd na ellir ei ddweud mewn unrhyw fodd arall? Ac i wneud hynny yn iawn y mae rheidrwydd ar y llenor i ddefnyddio dyfeisiadau llenyddol fel cyfryngau i fynegi ystyr. Yr hyn a awgrymir gan yr adeileddwyr yw bod unrhyw ystyr mewn testun yn cael ei ffurfioli o fewn fframwaith iaith. Hawdd y gellir gweld sut y byddai damcaniaeth o'r fath yn peri trafferth i'r diwinydd sydd yn ceisio darlunio hanfod y gwirionedd trwy gyfrwng iaith. Er enghraifft, sut y mae'r llenor yn mynegi arwyddocâd y logos mewn llenyddiaeth? Manylu ar hyn a wnaeth Roland Barthes yn ei astudiaeth Marwolaeth yr Awdur pan geisiodd gyflwyno llenyddiaeth fel system ar wahân i'r llenor; y mae arwyddocâd hynny yn allweddol bwysig i ddiwinyddiaeth. Os ydym yn derbyn bod ystyr mewn testun llenyddol yn bodoli ar wahân i'r awdur, ac os nad oes unrhyw elfen o ystyr y tu allan i gyd-destun y codeiddiad ieithyddol, sut y gall y llenor ddarlunio cymeriad Duw? 'By refusing to assign a secret,' meddai Barthes, 'an intimate meaning, to the text (and to the world as text), he liberates what may be called an anti theological activity, an activity that is truly revolutionary since to refuse to fix meaning is, in the end, to refuse God and his hypostases reason, science, law.' Y mae'r dyfyniad uchod yn ategu'r gwrthdaro sy'n bodoli rhwng diwinyddiaeth a llenyddiaeth. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth newydd. Ceir ateg i hynny yn astudiaeth I. A. Richards, Science and Literature, lle ceir beirniadaeth filain ar ddiddordeb diwinyddol y llenor a'i anallu i fynegi unrhyw gysyniad diwinyddol mewn llenyddiaeth. Ategir hyn yn astudiaeth Frances Mulhern, A Moment of Scrutiny (Llundain, 1979), lle ceir dadansoddiad effeithiol o'r gwrthdaro rhwng diwinyddion a llenorion wrth iddynt geisio canfod ystyr. Y mae'r gwrthdaro hwn yn allweddol, yn arbennig felly, gan ei fod yn adlewyrchu'r diddordeb cynyddol mewn darganfod safonau hiwmanistaidd mewn testunau llenyddol, a gwneud hynny mewn cyfnod pan yw credoau Cristnogol, dogmâu traddodiadol, yn cael eu dilorni. Yn sicr, wrth edrych ar draddodiad llenyddol Cymru o'r