Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cymhariaeth, yn wir sgaffaldwaith y testun gan ddirnad ystyr o fewn y fframwaith testunol. Pen draw'r math hwn o feirniadaeth yw dadlau bod meddwl a gyflwynir mewn unrhyw ddarn llenyddol yn gwbl ddarostynedig i ddyfeisiadau rhethregol ac yn wir, na ellid codeiddio unrhyw fath o ymresymu heb ein bod yn arfer dyfais rethregol lwyddiannus. Gan fanylu ar y theori uchod, cais yr Athro Bobi Jones drafod llenyddiaeth grefyddol mewn perthynas â dadadeileddeg. Gan gyfeirio at Ann Griffiths dywed: 'un arall o wiriondebau hedegog dad-adeiladu yw'r ymgais i ymwared â phopeth yn y byd y tu allan i'r testun ei hun a all fod yn gymorth i'w esbonio. Egwyddor a fyddai yn. anodd i'w chofio wrth drafod emynau Williams neu Ann Griffiths. 'II n'y a pas de hors texte,' meddai Derrida. (Nid oes dim byd y tu allan i'r testun: 'does dim all-destun). Gwaetha'r modd, efallai, ym mryd rhai, yn y byd real y mae llenyddiaeth yn rhan ohono y mae yna gyd-destun eisoes yn y testun ynghudd, sef hanes a chrefydd a seicoleg a thraddodiad llenyddol a rhagfarnau cyfoes ac iaith. Oherwydd y mewn-bresenoldeb hwn ni ddeellir unrhyw rediad o fewn y testun heb wybod beth sydd ar gerdded y tu allan iddo. Yn wir dywed iaith ei hun wrthym nad ydys yn adeiladu'r testun byth ar y pryd, yn ddigynhysgaeth. Defnyddio'r un daliadau a wna'r diwinyddion hynny sydd yn mynnu arddel diwinyddiaeth ddad-adeiladol. Gellir manylu ar waith Lyn M. Poland, Literery Criticism and Biblical Hemeneutics: a critique of formalist approaches (Llundain, 1988), a gwaith Mark T. Taylor, Erring: a post modern a-theology (California, 1982) sydd yn trafod arwyddocâd y theori lenyddol uchod mewn perthynas â diwinyddiaeth. Y mae Taylor yn dadlau na ellir dirnad ystyr Cristoleg gan fod y cysyniad o ddwyfoldeb yn gwbl ddi-ystyr o fewn byd rhyng- destunol. A chan fod y gair a wnaethpwyd yn gnawd yn arwydd o'r dwyfoldeb hwnnw, y mae dweud 'Duw' gydag ystyr mewn cyd-destun naturiol yn amhosibl. 'The word exists only as scripture, writing which is not about something; it is that something itself'. Meddai Taylor drachefn 'texts are in and of the world because they lend themselves to strategies of reading whose intent is always a struggle for interpretive power' (tt. 163-4). Y mae'r dyfyniad yn ategu pa mor anodd yw lluneiddio darlun o ddwyfoldeb a mynegi credo mewn termau ystyrlon. Ceir enghraifft dda o hyn yng ngherdd Alan Llwyd, Y Crist, sydd yn crynhoi yr un syniadau. Cyfieithiad i'n cystrawen ydoedd, rhag cymylu'n dirnadaeth, awen oddi wrth Dduw yn ein mydrau meidrol ni, yr Arfaeth yng ngeirfa'r ddynolryw, yn frawd, yn gnawd, yn genhadaeth, tragwyddol yn rhith ein meidroldeb, yn Un ac yn Dri. Y mae'r bardd yn ein hatgoffa mor anodd yw dirnad ystyr sydd y tu