Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oh! let my days like his be spent, In rural shades, with mild Content.6 Felly fe geir unwaith eto amwysedd o ran persbectif: mae'n bosibl nad bugail, nac yn wir laethferch na phladurwr na ffermwr yw ffocws y gerdd wedi'r cwbl. Mewn gwirionedd dechreuwn amau nad oes ganddo alwedigaeth. Hwyrach nad yw'n rhagor na bardd. Fe gyffelybir yn yr ail 'fugeilgerdd delynegol', mewn modd tebyg, lais llenyddol awdurdodol yr 'I' ag anfoesgarwch y trydydd person, 'Colin'. Gofynnir inni barchu'r confensiwn fod bugail y fugeilgerdd yn rhyw fath o fardd, ond wedyn mae'n rhaid holi sut fardd a geir yma. Nid yw'r naill neu'r llall o'r cerddi hyn yn ddiddorol iawn, ac fe ellir dweud yr un peth am weddill y ddwy gyfrol hyn sydd yn llawn o wahanol fugeilgerddi a thelynegion, er na cheir unrhyw 'fugeilgerdd delynegol' arall. Yn ogystal â barddoniaeth canfyddir yma nifer o sylwadau a throednodiadau fel yr un a ddyfynnwyd uchod. Daw'r dernyn 'The Reader will observe .ynunionarôlyrolafo'r tair cerdd yn atodiad, supplément, sy'n esbonio'r defnydd sydyn a thra annisgwyl, efallai, o'r term lyric pastoral. Yn hytrach na thybio bod y dernyn hwn yn esboniad ar y cerddi, fe ymddengys i mi mai'r cerddi sydd yn rhyw fath o ragair i'r dernyn dadleugar hwn. O gofio mai genre sydd dan sylw, mae'n amlwg fy mod yn cael trafferth i ddiffinio genre y testun hwn. Beth yn union sydd yma? ai atodiad, ai darn 'ar ymyl y ddalen', ai sylw, ai esboniad neu sylwebaeth? neu hyd yn oed nodyn neu ysgrif fer? Mae rhai o'r termau hyn yn perthyn i'r maes llenyddol ac eraill i'r maes athronyddol. Wrth ystyried cywair eironig ac ymosodol diwedd y testun: But some, it seems, are of the opinion that we should write for other countries, climates, and times, rather than our own. Bravo! my good Critics! fe ellid honni ei fod yn perthyn, gan ei fod yn gyhuddiad, i genre lafar. Mae'n rhaid, gan hynny, amau fod y cyfan o Poems, Lyrics and Pastoral yn rhan o ryw ystum rhethregol ar ran Iolo Morganwg. Nid yw'r cerddi o fawr bwys felly. Ond fe allai'r genres sydd yn cyfateb iddynt fod yn arwyddocaol. 'Roedd Iolo Morganwg yn 47 oed pan gyhoeddwyd ei Poems, Lyrics and Pastoral gan J. Nicholas, golygydd The Gentleman's Magazine. Dyma ddiwedd ei ail gyfnod yn Llundain. Ers amser fe fu'n honni mewn gwahanol gylchoedd llenyddol a radicalaidd mai ef oedd y Welch Bard olaf. 'Roedd at ei glustiau yn y gwaith o werthu myth Madog, ac nid oedd, gan hynny, wedi rhoi heibio ei fwriad i deithio i'r Amerig. Ddwy flynedd ynghynt fe drefnodd yr orsedd dderwyddol gyntaf ar Fryn y Briallu. 'Roedd Iolo yn rhyw fath o weledydd ecsentrig, yn saer maen,