Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hynafiaethwr, derwydd, radical a bardd. Cyfansoddai yn y Gymraeg yn bennaf. ond mae'r cerddi hyn yn gerddi Saesneg ac mae dwy ffaith fywgraffyddol yn berthnasol iddynt. Yn gyntaf, mai Saesneg ac nid y Gymraeg oedd ei famiaith. Yn ail, ei honiad fod yr awen wedi'i adael ar ôl ei briodas yn 1781.7 Dengys G. J. Williams8 i Iolo ddatblygu yn ffugiwr llenyddol ar ôl hynny gan greu gweledigaeth Ramantaidd o Gymru a'i Forgannwg frodorol. 'Roedd ei ffugiadau yn fwy cynhwysfawr o bell ffordd na rhai Macpherson a Chatterton. Os collodd afael ar yr awen fe ymddengys na chollodd ei allu i gyfansoddi cerddi da yn null yr Oesoedd Canol. Yn ei gyflwyniad i Poems, Lyrics and Pastoral dyma Iolo yn ail- greu ei hanes personol mewn dull sentimental er mwyn cyfannu ei weledigaeth ohono'i hun fel cynheilydd ac eiriolwr y traddodiad barddol Cymraeg. Mae'r holl aparatws o sylwadau a throednodiadau sydd ganddo'n cyfranogi yn yr ymdrech i adfer yr economi o fewnforiad ac allforiad sydd ar y ffiniau rhwng dau ddiwylliant. Seiliwyd y galw potensial am y fersiwn diwygiedig hwn ohono'i hun ac o'r diwylliant Cymraeg ar ddymuniadau cynyddol Ramantaidd y tanysgrifwyr i'r ddwy gyfrol. Fe ellir cynnwys yn y rhestr bobl fel George Washington, Tom Paine, William Cowper, Tywysog Cymru, William Wilberforce, Horace Walpole ac amryw o ferched amlycaf sawl salon llenyddol. Adnabu lawer o'r rhain yn bersonol. Nid oes amheuaeth ychwaith na ddarllenodd ei noddwr Robert Southey y llyfr. Beth felly yw diben Iolo Morganwg parthed y ddadl neilltuol hon ynglyn â'r 'fugeilgerdd delynegol'? I ba bwrpas y mae arno yntau angen y 'fugeilgerdd delynegol'? Beth yn ei dyb ef yw'r 'fugeilgerdd delynegol' ac ym mha fodd y mae hyn oil o gymorth iddo? Mae'r testun yn cynnwys sawl term sydd yn cyfeirio at genre, ond ceir hefyd wahanol fersiynau o genre y fugeilgerdd; ond fe ymrannant yn fuan yn ddau wersyll. Ar y naill du fe welwn 'Fugeilgerdd Delynegol' Iolo, 'caneuon' bugeiliaid, penillion 'telynegol', 'Baledi Bugeiliol' Shenstone, caneuon poblogaidd fel 'Chevy Chase' a 'Tweed Side' a'r 'verses to favourite tunes'. Ar y tu arall y mae 'Bucolics' Theocritos a Fyrsil a 'Heroics, "sub tegmine fagi'" ymadrodd Lladin yw'r olaf, yn golygu 'dan orchudd y ffawydden', ac yn cyfeirio at linell gyntaf eclog gyntaf Fyrsil. Gellir gweld felly fod sawl peth yn digwydd y tu ôl i'r llenni yn nisgwrs byr Iolo ar y 'fugeilgerdd delynegol'. Y prif gyferbyniad yw'r un rhwng y clasurol a'r naturiol cyferbyniad o ran 'countries, climates and times'. Hynny yw, Groeg Ddorig yn erbyn 'BRITAIN', yr amgylchfyd Groegaidd yn erbyn yr amgylchfyd Prydeinig, a'r gorffennol yn erbyn y presennol. Mae dwy broblem ynglyn â'r math hwn o strategaeth. Yn un peth