Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Rhodiwr fydd clerwr': Sylwadau ar Gerdd Ymffrost o'r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg Rhodiwr fydd clerwr, clau ei adlais, Rhaid imi honni, hyn a gefais: Rhyw oedd ym ymbil am bais-fotymawg Fforchawg ddiflewawg, ddwy aflawais.1 Dyma bennill cyntaf cân yn Llyfr Coch Hergest a briodolir i Iocyn Ddu ab Ithel Grach. Hon yw'r unig gerdd o'i eiddo a gadwyd, ac ni wyddys fawr ddim amdano. Diddanwr brith sydd yma, yn bwrw iddi i 'honni' neu ddatgan ar goedd rai o'r anturiaethau blasus a ddaeth i'w ran ar gwrs clera yng ngogledd-ddwyrain Cymru a thu hwnt i Glawdd Offa. Clywn am ei gampau rhywiol — 'doedd gwyleidd-dra, hyd y gellir barnu, ddim ymhlith ei rinweddau, ac am y modd y'i cam- driniwyd yn llys Sais crintachlyd yng Nghaer ac y bu iddo ddial drwy wneud cwcwallt ohono. Ymhlith y mannau eraill a enwir y mae Dyffryn Clwyd; Marchwiail a Llanferrais yn yr hen Sir Ddinbych; ac Aberryw a'r Cemais yn Nhrefaldwyn. Nid oes modd bod yn bendant, ond awgryma rhwyddineb yr ymadroddi nad yw'r gerdd yn debyg o fod lawer yn hyn na'r llawysgrif, mai i ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, felly, y perthyn.2 Ystyriaf y cynganeddion pengoll a llacrwydd y cynganedd- iad drwyddo draw nid fel arwydd o gynharwch ond, yn hytrach, fel adlewyrchiad o'r ffaith nad bardd o uchel radd mo Iocyn Ddu. Ni olyga hyn o raid, fodd bynnag, y dylid ei uniaethu â'r Glêr, y math arbennig o ddiddanwyr cyffredin a gystwywyd mor ffyrnig tua'r flwyddyn 1330 yn y Gramadeg Barddol a gysylltir ag Einion Offeiriad. Yn sicr ddigon, nid oedd Iocyn yn ei ystyried ei hun yn un ohonynt. Sarhad o'r mwyaf oedd i'r ystiward llys yng Nghaer ei osod i eistedd 'gyda'r glêr a ddigerais' (11.36). Dyma 'glêr ofer' Casnodyn, 'clêr y dom' Llywelyn Goch Amheurig Hen,3 ac er na raid credu o gwbl fod