Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awgrym nad oes sail draddodiadol i'r teitl 'pedair cainc y mabinogi', ac eir ymlaen i ddadlau dros archwilio natur episodig y ceinciau. Mae cymesuredd hyd yr episodau yn drawiadol, os yn wir y rhain, fel y'u dadansoddir yma, yw fel yr ystyriai'r chwedleuwr ei episodau: hynny yw, dichon nad yr un yw dadansoddiad pob darllenydd, modern neu ganol- oesol, o'r storïau, a gellid cynnig rhaniadau gwahanol i'r rhai a nodir yma. Fel casgliad o anturiaethau, neu o geinciau, heb batrwm uchel- geisiol y tu ôl iddynt, nac undod sylfaenol rhyngddynt, y derbynnir y pedair cainc ar ddechrau'r ymdrin- iaeth hon, ac y mae'r dadansoddiad o rai elfennau yn yr arddull draddod- iadol fel pe bai'n awgrymu nad yr un awdur sydd iddynt oll. Ai casgliad o chwedlau yw'r Pedair Cainc, wedi'u cyfansoddi gan wyr a berthynai i'r un cefndir, yn parchu'r un confensiynau wrth adrodd stori, ond yn amrywio yn eu defnydd o'r confensiynau hynny? Cofiwn fel y ceisiwyd defnyddio dadansoddiad ystadegol o iaith ac arddull yr Epistolau i benderfynu ai Paul yw awdur pob un sydd ar ei enw ac mor ansicr oedd y canlyniadau hynny. Ond erbyn diwedd yr astudiaeth, pan drafodir themâu a chymeriad- aeth y ceinciau, yr hyn sy'n dod yn amlwg yw fod ynddynt unoliaeth ymagwedd a bod un awdur yn cyhoeddi neges oesol ei harwyddo- câd. Mae'r ddwy farn yn ddilys ar wahân, ond y mae angen fframwaith feirniadol a all eu cysoni â'i gilydd a dwyn yr ystyriaethau arddull ac adeiladwaith yn nes at yr ymwybydd- iaeth lenyddol o ymagwedd gyson personoliaeth unigol at fywyd. Gwerthfawr yw'r dadansoddiad o'r technegau naratif, llafar gan mwyaf, a da y pwysleisir cyn lleied a wyddom am berfformio'r cyfarwydd. Mae'r dadansoddiad yma o'r modd y defnyddir fformiwlâu ac ymddiddan yn gyfraniad newydd a thrylwyr yn y maes hwn ac edrychwn ymlaen at ymdriniaeth lawnach Dr. Davies. Mae'n debyg fod pob rhyddiaith lafar yn rhythmig, ond nid oes rhaid iddi fod yn fydryddol, yn gyson ei haceniad. Nid wyf yn ymglywed â'r pum curiad a nodir gan Dr. Davies yn llawer o'r llinellau a ddyfynnir ar dudalennau 24-25, er fy mod yn ymglywed â rhythm llefaru cyhoedd- us ynddynt. Amau'r wyf hefyd a yw'r defnydd o'r tagiau 'hef ef', 'heb yntau', etc., lawn mor ddiamcan ag yr awgrymir, oblegid lleolir yr ymadroddion hyn yn gelfydd iawn i arafu llif y mynegiant er mwyn pwysleisio'r hyn sy'n dilyn neu i strwythuro'r adrodd. Dull o atal- nodi llafar ydynt. Y mae'r ymdriniaeth yn llawn cwestiynau pryfoclyd, ac yn ami yn cynnig atebion dadleuol! Nid oes amheuaeth na fydd yr astudiaeth hon yn cyffroi trafodaeth fywiog mewn dosbarth neu'n ysgogi cryn fyfyrdod ym meddwl y darllenydd unigol. Yn bwysicach fyth, a dyma ddiben cyfres Llên y Llenor, bydd yn dyfnhau mwynhad y sawl sy'n dar- llen Pedair Cainc y Mabinogi (boed yn y gwreiddiol neu mewn diweddar- iad) o'r newydd. BRYNLEY F. ROBERTS JANET DAVIES, Caerdydd, The Welsh Language, Gwasg Prifysgol Cymru, 15.5.1993; 121 odudalennau gan gynnwys rhestr o lyfrau eraill i'w darllen a mynegai; amryw o fapiau, lluniau, a rhestrau; clawr meddal ISBN 0-7083-1211-X pris [7.95. Rhydd Janet Davies bortread o hanes yr iaith Gymraeg. Mae'r stori yn ymestyn o dde Rwsia yn y flwyddyn 4000 cyn Crist i Gymru yn ystod yr Etholiad Cyffredinol 1992, ac y mae