Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nifer ac amrywiaeth y testunau sy'n cael eu trin yn syfrdanol o eang. Ceir disgrifiadau o ddyddiau cynnar 'y Gymraeg' ar y cyfandir, Brythoneg, Hen Gymraeg a Chymraeg Canol, a Chymraeg yn y cyfnod modern. Ond, ac eithrio ychydig o bwyntiau sylfaenol ynglyn â geiriau a chys- trawen, nid triniaeth ieithyddol yw'r llyfr hwn, ond portread o gyd-destun y Gymraeg dros y canrifoedd. Dull yr hanesydd traddodiadol yw'r dull sylfaenol yn hytrach na dull cym- deithasegydd iaith. Rhoddir manyl- ion am lenyddiaeth, cymdeithaseg, addysg, diwydiant, gwleidyddiaeth, crefydd, ysgolheictod, demograffeg, diwylliant, y gweisg, ymagwedd- iadau ieithyddol, y gyfraith, y sensws, darlledu ac eraill. Nid gwaith ymchwil gwreiddiol yw'r llyfr ac nid yw'n dod â ffeithiau na deongliadau newydd i'r maes. Gwaith ydyw sy'n crynhoi ac yn cyflwyno hanes yr iaith i'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â'i hanes. Mae'r awdures yn dangos dawn a disgyblaeth wrth drefnu portread cynhwysfawr, ac y mae'n trin y deunydd yn sensitif iawn. Ond mae cryfder y llyfr hefyd yn creu gwen- didau. Wrth edrych ar gymaint o themâu dros gyfnod hir, mae yna duedd i fod yn or-gryno, i or- lwytho'r stori, i symleiddio ac i or- gyffredinoli mae hyn yn arbennig o wir am y cyfnod modern a'i holl fanylder. Ond, mewn gwirionedd, effeithiau sy'n deillio o swyddogaeth sylfaenol y gwaith yw'r rhain er mwyn cyflwyno, mae'n rhaid syml- eiddio a chyfredinoli. Serch hynny, teimlaf fod yna ormod o ffeithiau mewn mannau. Hefyd, efallai y bydd sawl arbenigwr yn y maes yn gweld gwendidau yn y driniaeth. Fel ieith- egwr, yr oeddwn yn synnu darllen bod yna iaith lafar safonol yn y ganrif ddiwethaf, un a grëwyd gan y pregethwyr. Hyd y gwn i, er bod rhai yn credu hyn o beth, nid oes tystiolaeth yn sail i hynny. (Mewn mannau eraill, mae'r awdures yn ddigon parod i herio'r gred gyffred- inol megis effaith addysg Saesneg yn y ganrif ddiwethaf.) Rhydd yr awdures beth o'i hanes ei hun yn ogystal â hanes y Gymraeg. Ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr, y mae hi'n datgan safbwyntiau pers- onol — yn gyntaf, fel person di- Gymraeg neu 'Saesnes' ac yn ail fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, Cymraes. Mae Janet Davies yn deall ymagweddiadau y di-Gymraeg ac, i ryw raddau, mae'r llyfr yn ddelfrydol ar eu cyfer. Yn y diweddglo personol, rhydd hi ddehongliad treiddgar a chytbwys o statws a dyfodol yr iaith heddiw dehongliad sydd yn wreiddiol iawn. Fy nheimlad cyff- redinol yw ei bod wedi llwyddo i greu gwaith canmoladwy: mae'r llyfr wedi'i ysgrifennu'n dda ac mae'r wasg wedi sicrhau argraffiad deniadol am bris rhesymol iawn. BOB MORRIS-JONES, Aberystwyth W. J. EDWARDS, Cerdded y Clawdd Terfyn Cofiant R. Dewi Williams. Gwasg Gee, tt. 139. Pris [4.95. ISBN 0 7074 0219 0. Mewn Cyfarfod Misol yng Nghefn Meiriadog ym 1951 a minnau'n ymddangos gerbron y 'brodyr a'r tadau' am y tro cyntaf y gwelais Dewi Williams gyntaf erioed, a chofiaf yr argraff a wnaeth y gwr byr, addfwyn, trwsiadus gyda thei- bo arnaf. A minnau ar gychwyn i'r Coleg, prynais gopi o 'Clawdd Terfyn', ac mewn cyfnod pan na wyddwn ond ychydig am lenydd- iaeth Gymraeg cofiaf y mwynhad a gefais o'i ddarllen. Ni fûm yn siarad â Dewi Williams erioed ond cofiaf y