Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD GLYN JONES, Gwlad y Brutiau, Darlith Goffa Henry Lewis 1990, Prifysgol Cymru Abertawe, 1991, 30 td. Ni nodir y pris. Ynys Brydain yw gwlad y brutiau, y wlad y mae'r brutiau'n sôn amdani, y wlad sy'n llwyfan i'r hanes a adroddir ynddynt. Ond llyfrau Cymraeg yw'r brutiau neu'r llyfrau hanes hyn a fwriadwyd yn ddehong- liad o orffennol Cymry'r oesoedd canol. Ymgodymu â'r paradocs a'r croestynnu hwn a cheisio olrhain gweddnewidiadau'r myth Brytan- naidd ynghyd â'r elfennau cyson ynddo yw mater y ddarlith feddylgar hon. Un o amryfal ddoniau Dafydd Glyn Jones yw'r gallu i draethu'n eglur ddealladwy a difyr ar bynciau astrus neu athronyddol fel y gwna yn y llyfryn hwn, sy'n llwyddo i ddal naws gynnes arddull lafar darlith- ydd profiadol ar dudalennau print ond mewn diwyg nad yw'n gwneud cyfiawnder â'r cynnwys. Yr hyn a wna'r awdur yw def- nyddio'r ddau frut, Brut y Brenhin- oedd Sieffre o Fynwy sy'n adrodd hanes dychmygol brenhinoedd Prydain nes alltudio'r olaf ohonynt dan bwysau goresgyniad Saeson, a Brut y Tywysogion sy'n parhau hanes y genedl ond yng Nghymru yn awr, i enghreifftio dau fath o hanes. Mythaidd yw'r naill, dam- hegol os mynner, chwedlonol ac yn bod y tu allan i ffiniau amser; hanesyddol yw'r llall, yn ymgais i lunio, neu i ddarganfod, patrwm, ac efallai ddiben, yn llif digwyddiadau o fewn amser. Ond er eu categor- eiddio'n daclus fel hyn, un hanes ydyw mewn gwirionedd oherwydd dim ond yng nghyd-destun hanes mythaidd Ynys Brydain y canfyddir themâu cyson hanesyddiaeth wirion- eddol y genedl. Y thema fawr yw Coll Prydain, eithr nid yw hon yn ystyrlon ond i bobl sy'n eu gweld eu hunain yn weddillion yr hen Frytaniaid ac sy'n credu mai cwyno colli sofraniaeth ynys unedig yw priod lais eu hanes. Er hynny, gwlad ddychmygol yw'r Ynys Brydain hon na fu erioed yn gaeth i ffiniau daearyddiaeth, symbol na fu erioed yn ffaith wleid- yddol. Symudliw a llawn paradoc- sau yw hanfod y cysyniad o Ynys Brydain y traddodiad hanes yn un ynys nid dwy, un brenin ond llawer gwlad, Lloegr a choron Llundain yn bartner hyn ond Cymru'n ganol ac yn ganolbwynt popeth sy'n digwydd, a'r Gymru honno'n bar- haus dan wasgfa o'r gorllewin fel o'r dwyrain. Ni ellir llai na theimlo y buasai hanes Cymru'n haws ei amgyffred ac y buasai'n fwy rhes- ymol a didramgwydd heb y cysyniad o Ynys Brydain. Buasai'n haws ei dderbyn ac, fe ellid tybio, yn fwy o ysbrydoliaeth. Pam felly y mynnodd ein cyndadau lynu wrth hanes mor drychinebus a'u gorfodai i seilio eu gobeithion nid yn gymaint ar eu balchder yn eu gorffennol ond ar ddaroganau am eu dyfodol. Beth oedd yr afael ddirdynnol hon na ellid ymryddhau ohoni? Yr allwedd, mae'n debyg, yw ei bod yn tarddu'n llythrennol o ddech- reuadau'r genedl. Nid ynys ddaear- yddol mo Ynys Brydain ond y dalaith Rufeinig Frythonig. Endid ethnig yw Ynys Brydain yr hanes, a'r hyn a fynegir ganddi yw mai ynddi hi y crewyd y Cymry. Os cyfranogi o'r un profiad yw hanes cenedl, profiad diwylliannol yw'r un dyfnaf am ei fod yn drech na daearyddiaeth, gwleidyddiaeth a ffiniau bro. Mae Ynys Brydain yn thema hirhoedlog yn ein meddylfryd ac nid yw wedi darfod eto. Nid rhywbeth a wasgwyd arnom ydyw ond yr hyn ydoedd o'r dechreuad. A ddylem yn wir a allwn ymwadu â'n prydeindod? Yr hyn a ddywed y ddarlith hon yw fod Ynys Brydain gymaint rhan o wead ein hanes a'n