Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

testun yw'r ffordd y llwyddir i gysylltu'r garol 'Tawel yw'r Nos' gyda'r ysgolhaig Leopold Kohr a fu am gyfnod yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberyst- wyth. Gwelodd y darlithydd a'r garol olau dydd gyntaf ym mhentref Obendorf yn Awstria, y garol yn 1818 a'r ysgolhaig yn 1909. Nid hanes llunio'r carolau yn unig a geir gan y golygydd yn ei ymdriniaethau, ond llwydda hefyd i wau gwybod- aeth ddiddorol i mewn am hen arfer- ion paganaidd sy'n gefndir i lawer o'r traddodiadau a gysylltir gennym ni â'r Nadolig erbyn hyn, e.e., yr eiddew a'r gelynnen (t.78). Yn goron ar y cwbl, fe lwyddir i gyflwyno arwyddocâd diwinyddol y carolau yn syml a didramgwydd gan amlygu lle'r Ymgnawdoliad yn ddigon naturiol o fewn i fframwiath gyfan Ffordd Iachawdwriaeth. Cawn enghraifft dda o hyn wrth drafod y garol gyfarwydd 'O! Deued pob Cristion' (t.64). Na, nid dod i ddwyn heddwch cyffredinol i gymdeithas a wnaeth Crist, ond dod i ddwyn unigolion i berthynas heddychlon â Duw. Dod i symud "ein penyd a'n pwn" a wnaeth, a throi gelynion i Dduw yn feibion iddo, a thrwy hynny yn frodyr i'w gilydd. Carol am heddwch â Duw a'i ganlyniadau yw hon, felly. A phen draw heddwch y "cyfamod tragwyddol" fydd gweld meibion Duw "pob Cristion", "o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl" yn cydrodio yn heddwch y ddaear newydd.' DAFYDD IFANS GERAINT H. JENKINS (gol.), Cof Cenedl VII: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Llandysul: Gwasg Gomer, 1993) tt. 196. [4.00. Cyfrol arall o ysgrifau ar Hanes Cymru i'w thrysori ydyw Cof Cenedl VII dan olygyddiaeth gadarn Geraint Jenkins. Unwaith eto, ceir cyfrol ddeniadol gyda chlawr traw- iadol, teip clir, darluniau a ffoto- graffau wedi eu dewis yn ofalus ynghyd â dyfyniadau sy'n procio'r meddwl. Unwaith eto hefyd ceir ystod amseryddol eang yn y chwe ysgrif, y tro hwn o gwestiwn J. E. Caerwyn Williams yn yr ysgrif gyntaf pa bryd y dechreuodd y Cymry ymdeimlo eu bod yn genedl' hyd at y ganrif hon. Mae ysgrif J. E. Caerwyn Williams 'Cenedlaetholdeb yng Nghymru'r Oesoedd Canol' yn fwy na chofnod o ysbryd cenedlaetholdeb yr oes. Ynddi cawn yr Athro'n cynnig rhai o'i ddiffiniadau ef o'r hyn yw cened- laetholdeb. Cawn fod y cof yn rhan annatod o'n datblygiad fel cenedl- boed hwnnw'n aml yn gof wedi ei ramantu. Cawn olwg ar ein gorffen- nol fel cenedl trwy gymorth 'tystion' fel Sulien, Gerallt Gymro a Sieffre o Fynwy yn ogystal â'r beirdd. Mae yma ymdriniaeth o deithi meddwl Hywel Dda ac Owain Glyndwr -eu cynlluniau a'u gobeithion i'r genedl a chawn ddiweddu gyda buddugol- iaeth Harri Tudur yn Bosworth a chyhwfan draig goch Cadwaladr. 'For all have not the gift of martyrdom', meddai Dryden. A nin- nau'n cofio merthyrdod John Penri bedwar canmlynedd i eleni, mae'n dyled yn fawr i R. Tudur Jones am y cyfle i'n hatgoffa ein hunain o arwyddocâd y merthyrdod hwnnw i ni fel Cymry. Adroddir ei hanes o'i eni yng Nghefn Brith i'w grogi yn St. Thomas a Watering yn ystod teyrnasiad wyres Harri Tudur. Ceir ymdriniaeth â sawl agwedd o'i