Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Trwy lifogydd, afonydd, llynnoedd coch a aeth yn lliw llechen, trwy dywyllwch a dagrau aeth y gyrrwr ymlaen.) O fryn yn Leckhampton cafodd weld y wawr ar fryniau Housman a dyfynnu barddoniaeth i mi. Gellir treulio oes heb ddweud y pethau pwysig sy'n cael eu llefaru orau mewn cerddi. TIRLUNIAU JOHN NASH Â'i lygaid ar y ddaear, gwelodd liw rhwng llinellau main y gaeaf, glesni a gwyrddni coed wedi eu corlannu, symudiad yn eu canol llonydd wrth i'r ddaear anadlu, a'r fynwes o gaeau yd- Lloegr. IAITH DDIACRONIG Adleisia iaith lawr y canrifoedd Dyna sut y ceir yr awgrym o'r ogof, swn tanddaearol y groth. Main yw iaith bwrdd post-mortem y gwyddonydd ond gall bardd awgrymu trwy gyd-destunio gair nes bo'r atsain yn diasbedain.