Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Gelyn yr iaith Gymraeg' Y r/arcnedig bhadracn Fryce, A.L.M., a meddylfryd yr Arolygiaeth yn Oes Fictoria Yn dilyn cyhoeddi bwriad y Llywodraeth i newid rôl traddodiadol Arolygwyr Ei Mwrhydi o fis Medi 1993, bu dadlau ffyrnig yn y byd addysg am y diraddio a'u hwynebai. Dadleuwyd bod yr Arolygiaeth wedi ennill parch athrawon a chymdeithas gyfan am eu gwaith clodwiw yn arolygu ysgolion yn wrthrychol, ac am eu cynghorion doeth a goleuedig. O safbwynt Cymru, heblaw am waith Syr O. M. Edwards fel Prif Arolygwr y Bwrdd Addysg (Adran Gymreig), 1907-20, ychydig iawn o sylw a roddodd haneswyr i waith yr Arolygwyr.l Mae eu hadrodd- ladau o 1839 ymlaen yn ffynhonnell aruthrol o bwysig ynglyn â safonau dysgu, agweddau at addysg a hefyd hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Haedda'r Arolygiaeth glod am lawer o'r gwaith a gyflawnwyd, yn arbennig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ond yn ogystal, rhaid cydnabod bod yr arolygwyr yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria wedi arddel polisïau ieithyddol cyfeiliornus ynglyn â'r iaith Gymraeg. Heblaw am eithriadau prin megis H. Longueville Jones yn y blynyddoedd 1849-64 a William Edwards, William Williams, Edward Roberts a Thomas Darlington yn yr 1880au a'r 1890au, gelyniaethus iawn oedd yr Arolygiaeth at yr iaith Gymraeg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.2 Sefydlwyd yr Arolygiaeth yng Nghymru a Lloegr yn 1839. 'Roedd y 1830au a'r 1840au yn gyfnod o gyffro cymdeithasol — Gwrthryfel Merthyr, Terfysgoedd Rebeca a helyntion y Siartwyr. Ystyriai'r Wladwriaeth yr iaith Gymraeg yn rhwystredigaeth i wlad ddiwydian- nol a geisiai gymdeithasoli a meithrin rheolaeth dros y dosbarth gweithiol lower orders trwy gyfrwng cyfundrefn o ysgolion elfennol cyfrwng Saesneg, a bwysleisiai ddisgyblaeth a pharch at yr