Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwy oedd Capten Bosvile? Ar 10 Tachwedd, 1854 gadawodd George Borrow dref fechan Llan- ymddyfri gan barhau ei grwydriadau drwy wyllt Walia. Cyrhaeddodd Langadog ymhen yr awr, ac wedi iddo dorri ei syched yn un o dafarnau'r pentref, cychwynnodd ar ei daith drachefn gan gyfeirio'i gamre dros y Mynydd Du i'r Gwter Fawr (Brynaman). Wrth iddo nesáu at Gapel Gwynfe, a'r niwl bellach yn prysur gau amdano, clywodd swn carnau ceffylau yn y pellter yn araf nesáu tuag ato. Ymhen ychydig, gwelodd deulu o sipsiwn yn dod i gyfarfod ag ef. A'r garafan tua deg llath oddi wrtho, cododd Borrow ei law gan erchi i'r gyrrwr arafu. Gwnaeth yntau hynny, ac wrth iddynt sgwrsio â'i gilydd cofiodd y ddau iddynt gyfarfod unwaith o'r blaen yng nghymdogaeth Birmingham. Dyma sut y cofnododd Borrow fanylion y sgwrs honno: 'It is a long time since we last met, Capten Bosvile, for I suppose I may call you Captain now.' 'Yes! the old man has been dead and buried this many a year, and his sticks and titles are now mine. Ah, you may well call it a long time since we met why, it can't be less than thirty year.' 'Something about that you were a boy then of about fifteen.' 'So I was and you a tall young slip of about twenty. Ychwanegodd y sipsi mai hwn oedd y tro cyntaf iddo ymweld â Chymru. Hwn hefyd fyddai ei ymweliad olaf gan iddo ef a'i deulu ddioddef triniaeth arw gan rai o Wyddyl anystywallt Merthyr Tudful ym Morgannwg. 'The country is overrun with Hindity mescrey, wild Irish, with whom the Romany folk stand no chance', meddai'r sipsi, gan ychwanegu, 'The fellows underwork me at tinkering, and the women outscream my wife at telling fortunes moreover, they say the country is theirs and not intended for niggers like we, and as they are generally in vast numbers what can a poor little Roman family do but flee away before them? A pretty journey I have made into Wales'.2