Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gŵr o Gaeo: Timothy Richard (1845-1919) Pwy oedd Cymro mwya'r ganrif ddiwethaf? Cwestiwn gwirion hwyrach gan y bydd ein hatebion yn amrywio yn ôl amrywiaeth ein diddordebau a'r hyn y rhown bwys arno. Ond i mi y mae Timothy Richard o Ffaldybrenin yn agos iawn i'r brig, onid ar ben y rhestr, am iddo wneud cymaint o'r ychydig fanteision a gafodd. Ar fur un gwesty yn China, os gellid ei alw yn westy ac un ar bymtheg yn cysgu yn yr un ystafell, 'roedd prescriptiwn y bywyd da yn cynnwys ugain o eitemau. Gwnewch bils o'r rhain, meddai, a chymerwch hwy'n gyson, ond peidiwch â'u cymysgu â chyllell sarcasm, na iaith anweddus. Ond os cymerwch hwy fe fyddant yn foddion iachâd i bob math ar anhwylder. Yn y rhestr rhoddwyd cariad, cyfiawnder, gonestrwydd, dyletswydd, ac addoli nef a daear. Meddyliais innau beth pe rhoddid i ni'r gallu i lunio cymeriad, pa rinweddau a roesem yn y risét? Yma, eto, 'rwy'n siwr y caem amrywiaeth. Byddwn i yn ddigon parod i gynnwys llawer o'r rhinweddau hynny a welaf ym mywyd y gwr rhyfedd hwn a enillodd anrhydeddau uchaf China ond na welodd ei fro ei hun yn dda godi cofgolofn iddo. Pa rinweddau? Wel, dyma rai ohonynt: 1. Ei sensitifrwydd i angen rhywun arall mewn gair, cydymdeimlad; 2. Ei deyrngarwch i'r Gwirionedd, costied a gosto; 3. Ei wroldeb a'i fenter; 4. Ei ddoethineb; 5. Ei ymrwymiad i heddychiaeth; 6. Ei barch i grefydd a diwylliant China. Y Teulu Ond cyn rhoi ambell enghraifft o'r rhinweddau hyn ar waith carwn aros ychydig i sôn am ei gartre a'i fore oes. Ond nid wyf am fanylu ar feysydd sydd eisoes yn gyfarwydd i ddarllenwyr y llyfrau a sgrifen- nwyd amdano, e.e., gan yr Athro W. E. Soothill, Williams Hughes,