Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ROBERT RHYS, Chwilio am nodau'r gân. Astudiaeth o yrfa lenyddol Waldo Williams hyd at 1939 (Llandysul, 1992). tt. ix, 224. Pris [7.45. Nid yn aml y trewir teitl mor addas a phriodol ar gyfrol ag a drawyd ar y gyfrol hon sydd yn ddibetrus yn ymgais lwyddiannus i olrhain ym- drech Waldo Williams i ddod o hyd i'w iawn lais fel bardd. Hwyrach nad 'llais' yw'r gair gorau i ddis- grifio'r hyn sydd unigryw iddo er bod ganddo, fel pob gwir fardd, ei lais ei hun, ond mae'n anos yn ei achos ef nag yn achos y rhelyw wahaniaethu rhwng yr hyn a ddy- wedir a'r ffordd o'i ddweud. Boed a fo am hynny, prin y bydd neb yn anghytuno â dadl Robert Rhys fod gyrfa lenyddol Waldo Williams yn ymrannu'n ddau gyfnod, cyfnod y chwilio am nodau'r gân a chyfnod cael gafael arnynt, nid nad oes peth cael yn y cyfnod cyntaf a pheth chwilio yn yr ail. Cyfnod y chwilio yw maes llafur Robert Rhys, ac fel y dengys is-deitl f* gyfrol, maentumia fod y cyfnod hwnnw'n dirwyn i ben yn 1938. DYma a ddywed yn yr adran Diweddglo': Yn ôl y ddamcaniaeth a boblog- Adolygiadau eiddiwyd gan Bobi Jones, yn anad neb, gellir nodi 1936, blwyddyn Penyberth, fel prif raniad naturiol llenyddiaeth Gymraeg y ganrif hon. Ar ôl hynny, fe ddadleuir, ymwthiodd agweddau caletach, mwy ym- rwymedig, i'rblaendir. Mae'n arwyddocaol bod modd rhannu gyrfa Waldo Williams, ar hyd yr un llinellau, ond taw 1938 yw diwedd cyfnod addewid a chwilio yn ei achos ef a 1939 yw dechrau tymor cyflawniad. Mae Mr. Rhys yn trafod cyfnod yr addewid yn fanwl, a'i gasgliad ar ddiwedd ei drafodaeth yw: Ni allai Waldo Williams beidio ag uniaethu â'r wythïen wleid- yddol gref a oedd yn rhan o'r symudiad rhamantaidd; ni allai beidio chwaith â defnyddio ei farddoniaeth yn gyfrwng i fynegi safbwyntiau cymdeithasol- wleidyddol cryfion. Mae hyn yn gallu arwain at ganu rhethregol, ystrydebol ac mae darnau o'r cywydd hir (sc. 'Y Twr a'r Graig') dan sylw yn euog o hynny. Yn y rhannau mwyaf llwyddiannus gwelwn fardd yn defnyddio gwrthrychau naturiol ei gynefin ac yn eu codi mewn ffordd