Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynnar fel y gwnaeth Robert Rhys, ond gobeithio fy mod drwy sôn am y syniadau a'r teimladau a ysgogodd ei lyfr ynof wedi dangos maint fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith. Mae Chwilio am nodau'r gân yn llyfr na all neb a fynno ddeall barddoniaeth Waldo, ei anwybyddu. J. E. CAERWYN WILLIAMS GERAINT WYN JONES, Ag- weddau ar Ddysgu laith (Gwasg Gomer, Llandysul, 1993). tt.324 a rhagymadrodd a chyflwyniad (vii- ix). Rhydd y llyfr hwn drafodaeth eang a llawn ar y pwnc sydd yn ei deitl, a bydd o ddiddordeb i bawb sy'n gweithio yn y maes diddorol hwn. Trefnir y llyfr yn ddwy ran y gellir eu galw yn 'ddamcaniaethol' ac 'ymarferol'. Mae'r rhan gyntaf yn trafod syniadaeth dysgu iaith, gan ystyried canlyniadau ymchwil ac egwyddor- ion sawl cynllun dysgu iaith. Mae pennod 1 yn edrych ar y dadleuon dros ac yn erbyn addysg ddwy- ieithog gyda'r nod o'i chyfiawnhau. Mae pennod 2 yn ystyried metho- doleg dysgu iaith trwy drafod y cwestiwn ai ail iaith neu iaith fodern yw'r Gymraeg. Mae pennod 3 yn parhau'r drafodaeth ar fetho- doleg gan ystyried rôl y famiaith mewn dysgu iaith. Mae'r bennod hon yn ddiddorol iawn yn y ffordd y mae'n olrhain hanes dulliau dysgu'r Gymraeg. Mae pennod 4 a phennod 5 gan awduron eraill ac, i ryw raddau, mae hyn yn dweud ar rediad y llyfr, er bod eu cyfraniadau yn werthfawr. Mae pennod 4 yn ystyried gwaith dosbarth ail iaith ond mae'n od bod y bennod hon yn trafod 'beth yw ail iaith' o ystyried y drafodaeth yn y penodau blaenorol. Mae'r bumed bennod yn trafod nodau graddedig mewn dysgu iaith ac yn ystyried profion iaith. Mae'r ail ran yn gosod gwaith ymarferol a dulliau dysgu iaith ar gyfer y dosbarth. Nid llawlyfr dysgu yw'r ail ran ond canllawiau i greu rhaglen ddysgu iaith. Ond teimlaf fod gwaith y dosbarth yn gofyn mwy o Ie nag a roddwyd yn y llyfr hwn. Mae'r gyfrol yn llwythog iawn, yn enwedig rhan 2. Mae'r rhan gyntaf yn ystyried nifer mawr o gwestiynau yn y maes, ond teimlaf fod yna duedd i gyfeirio at ganlyniadau ymchwil i gefnogi safbwynt heb werthuso effeithiolrwydd metho- doleg yr ymchwil. O fewn cyd- destun dysgu iaith yng Nghymru, mae'r dull trochi yn flaenllaw iawn a cheisir cyfiawnhau'r dull hwn trwy ddweud bod dysgu'r famiaith yn debyg i ddysgu'r ail iaith. Ond mae'r safbwynt hwn yn ddadleuol ac, yn sicr, mae cyd-destun dysgu'r famiaith yn y gymdeithas yn wahanol iawn i ddysgu'r ail iaith yn y dosbarth. Wrth drefnu'r llyfr yn ddwy ran, y mae ymgais i ddod â syniadau academaidd a gofynion ymarferol y dosbarth at ei gilydd o fewn yr un gyfrol. Gellir dweud, felly, fod y llyfr yn ceisio apelio at bobl academaidd sy'n traethu am ddysgu iaith ac at athrawon sy'n ymdrechu yn y dosbarth. Ond mae'n ddadleuol a fydd y naill ochr a'r llall yn apelio at y ddwy garfan. BOB MORRIS-JONES Aberystwyth Thomas Charles' Spiritual Coun- sels selected from his letters and papers by Edward Morgan (Ceredin, The Banner of Truth Trust, 1993). Pris: [11.95. xlii, tt.477. Yn rhifyn Gorffennaf 1974 o'r Traethodydd tt.226-7), fe soniwyd am y gyfrol John Elias Life,