Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi 'NI A EWYLLYSIEM WELED YR IESU' Tristâd, er pob cenhadu,-ydyw gweld Duwiau gau'n cynyddu; Cans eisiau ein dyddiau du Yw'r ias o weld yr Iesu. Derwyn Jones 'NI A EWYLLYSIEM WELED YR IESU' (Efengyl loan 12: 21) Ewyllysiwn weled Iesu, Ysbryd sanctaidd, dyna'n cri, Ef, a fu yn deffro syndod ar ei ffordd i Galfari trwy weddnewid byd a bywyd oll â'i air. Arwain Di ein camre'r awron at y byw, brofedig Un, na fyn fod yn ddim ond enw yng ngorffennol troellog dyn, ond yn fythol Arglwydd mwyach yn ein plith.