Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tecwyn Lloyd yn llythyra Clywais yn ystod trafodaeth ar lythyrau y bardd Larkin yr haeriad bod llythyr o law llenor cydwybodol yn gyhoeddiad ac nid yn rhywbeth wedi'i fwrw tros ysgwydd. Gyda Tecwyn yn sicr 'roedd yr ysfa lenydda ar waith mewn llythyr at gyfaill. Wrth gwrs, ni fu cywiro a gloywi fel ar gyfer cyhoeddi, ac ni thybiais fod angen i mi wneuthur hynny. Yn y cyswllt hwn credaf nad oedd Tecwyn Lloyd yn gorfod newid llawer ar ei ddrafft cyntaf gan fod y ffurfio a'r dethol wedi digwydd yn ei ben cyn rhoi gair ar bapur. Dyna un rheswm dros lunio'r erthygl hon. Ond mae rhesymau gwell dros gynnig pigion o lythyrau, sef eu bod yn ddifyr ac yn ddiddorol ac wedi'u hysgrifennu gan un a wnaeth gyfraniad sylweddol i'n llenyddiaeth. Yn ffodus deuthum o hyd i lawer o'r llythyrau a dderbyniais gan fy nghyfaill dros gyfnod hwy na hanner canrif. Yn anffodus nid ydynt wedi'u gwasgaru'n gymesur tros y degawdau: mae saith ohonynt cyn 1942 ac un ar ddeg rhwng 1983 a 1992 gydag un yn unig cyd-rhwng. Hwyrach, 'rwy'n gobeithio, fod sypyn neu ddau arall heb eu darganfod eto. Un o'm gwendidau i, yn ôl y teulu, yw cadw pethau yn 11e eu taflu ymaith. Wrth drin y llythyrau hyn sylweddolais mai trwy lythyra yr oedd y cyfathrachu cryfaf rhyngom ein dau. Fel myfyrwyr buom yn cyd-letya yn ogystal â bod yn yr un cylchoedd sylweddol ac ysgafala. Wedi hynny buom yng nghartrefi'n gilydd, yn galw wrth basio, mewn cyfarfodydd ac eisteddfodau. Yn rhyfedd iawn prin yr ymgomiem ar y teliffon: rhywbeth ydoedd hwnnw i neges fer yn unig. Lôn bost i'r cyfathrebu ydoedd llythyr. Mae'r rhelyw o'r llythyrau wedi'u teipio ar beiriant yr oedd y llythyrwr yn ymfalchio ynddo. Bijou, o wneuthuriad Eingl-Almaenaidd a brynais yn newydd ym Mangor yn ystod gwyliau Llungwyn 1939! Heb os, dyma'r fargen