Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fransez Kervella Gramadegydd, Rhyddieithwr a Bardd (1913-1992) Ar 10 Chwefror, 1992 bu farw Fransez Kervella (D. Kenan Kongar), un o bennaf cymwynaswyr y Llydaweg, ac ysgolhaig nas anghofir tra pery'r iaith. Ganwyd ef ar 31 Ionawr, 1913, yn Mesnot ym mhlwyf Dirinonn, rhwng Plougastell a Landerne yng ngogledd-orllewin Llydaw. Gwerinwyr tlawd oedd ei rieni, Pêr Karvella a Mari Glaodina'r C'horr, ac ar yr aelwyd ni chlywid ond Llydaweg, unig iaith y gymdogaeth i gyd i bob pwrpas. Y cefndir hwn a roddodd i Fransez Karvella y math o sicrwydd ieithyddol sydd mor brin erbyn hyn ymhlith siaradwyr Llydaweg. Yn ei ragymadrodd i'w brif waith, Yezhadur bras ar brezhoneg (Gramadeg Mawr y Llydaweg) (La Baule, 1947), cydnabu bwysiced fu iddo gael ei drwytho'n ifanc yn iaith ei fro: I mi, y sylfaen gadarnaf fu Llydaweg Kernev, a ddysgais yn blentyn ar ffiniau'r ardal honno, i gyfeiriad Leon.1 Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, lladdwyd ei dad mewn damwain ar y llong yr oedd yn gwasanaethu arni ym Mrest, gan adael eu mam i fwydo ac i feithrin Fransez (pedair oed) a'i frawd iau. Yn ei atgofion Antie traon ar c'hoad (Y Tŷ yng Ngodre'r Coed), edrydd sut y torrwyd y newydd iddo: 'Roedd y gwanwyn wedi dod yn ôl. Ar hyd y clawdd a oedd yn rhannu ein tir oddi wrth y Park Kreiz 'roedd y briallu wedi dechrau blodeuo. 'Roedd amryw fathau yno, o bobtu i'r clawdd. Heb gyfrif y rhai arferol lliw hufen, 'roedd hefyd ychydig a oedd yn wyn fel yr eira, ac eraill a oedd yn binc neu'n goch, disgynyddion rhyw blanhigyn a ddygwyd yno o dy rhywun da ei fyd, mae'n siwr. 'Roedd y cynnud newydd gael ei dorri ar y clawdd ac yn y