Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Genhadaeth Brotestannaidd gyntaf a rhan Cymry ynddi Tybiai awdur dienw ysgrif yn Y Traethodydd ym 1869 l mai cynnyrch y mudiad efengylaidd yn niwedd y ddeunawfed ganrif oedd y genhadaeth dramor ac, yn hynny o beth, nid oedd ond yn mynegi'r farn gyffredin. Dyma'r mudiad hefyd a roddodd fod i'r Gymdeithas Feiblaidd (1804) ac i ddechrau'r ymgyrch i gyfieithu'r Beibl i ieithoedd brodorol. Mor ddiweddar â 1971, honnai hanesydd o Americanwr2 mai'r Brodyr Clapham (Clapham Sect) a roddodd ysgogiad i'r mudiad cenhadol a gynhyrchodd o leiaf dair cymdeithas adnabyddus. Ceisir dangos yma fod cynlluniau ar waith i'r perwyl hwn yn agos i ganrif ynghynt a bod gan nifer o Gymry ran ynddynt. Bu cyfnod braenaru'r tir yn hir ac nid cyn diwedd y ddeunawfed ganrif y sylweddolwyd y gobeithion, ond erbyn hynny yr oedd amgylchiadau lawer yn fwy ffafriol. Y Pabyddion oedd yr arloeswyr yn y maes cenhadol yn enwedig ar ôl Cyngor Trent (1545) pryd y mabwysiadwyd polisi mwy ymosodol i wrthweithio lledaeniad Protestaniaeth. Cymdeithas yr Iesu, neu'r Iesuwyr, oedd ar flaen y gad ac ni chyfyngwyd eu hymgyrch i Ewrob. Cyfnod ehangu ymerodraethau oedd yr unfed ganrif ar bymtheg ac fe roddodd brenhinoedd Sbaen a Phortiwgal bob cefnogaeth i'r Iesuwyr er mwyn cynyddu eu dylanwad yn eu sgîl. Nid oedd y Pabyddion yn ôl o edliw i'r Protestaniaid eu clarineb at ledaenu'r Efengyl, ond ni fu'n bolisi gan Brydain i hyrwyddo Protestaniaeth i bwrpasau imperialaidd. Ar gynnydd masnach yr oedd bryd llywod- raeth Prydain ac i sylweddoli hynny teithiai ei masnachwyr i'r Dwyrain Pell yn ogystal â'r Gorllewin. O'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, yr oedd gan y Portiwgaliaid gysylltiad sefydlog â'r India. Pan gyraeddasant yno, canfuasant er eu syndod, fod Cristnogaeth eisoes wedi sefydlu yno. Yn ôl traddodiad a gadarnheir mewn ffynonellau Syrieg o'r ail ganrif O.C., yr apostol