Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fel arfer, dyw pobl normal yn sylwi ar y cyflwr cudd hwnnw. Ond dyma'r lle y mae'r ieithydd yn cael hwyl. Cymryd yr hyn sydd yn golwg, a chwilio drwyddo am yr hyn sydd o'r golwg ac yn ei gyflyru, dyna'i waith ef. Hynny yw, drwy chwilio'r ffrwythau, y canlyniadau, y gweithredoedd ieithyddol amlwg ac achlysurol, ceisio dod o hyd i'r gwreiddyn, yr hyn sy'n eu hamodi, yn fwy sefydlog, ac yn eu creu neu'n eu caniatáu y tu ôl i'r llenni. Dyw'r 'Tafod' yma dw-i'n sôn amdano yn y meddwl ddim yn llai sicr na'r 'Mynegiant'. Yn wir, y mae'n fwy sicr, oherwydd ei fod yn fwy dibynadwy, hynny yw mae'n llai amwys ac nid yw'n gwneud yr un camgymeriadau. Dyw e ddim yn llai o ddiriaeth ar ryw olwg. Dyna pam y defnyddir y trosiad 'Tafod': dyma'r offeryn ar gyfer cynhyrchu. Y mae'n sail hollol angenrheidiol ac anochel. Yn ffynhonnell. Y mae felly yn rhaglfaenu. Fel y mae Ffydd yn rhagflaenu Gweithredoedd, felly y mae Tafod yn rhagflaenu Mynegiant. Yr hyn sy'n digwydd mewn gweithred ieithyddol yw gwrthrychu'r Tafod. Mae yna broses ar waith: y mae profi iaith ar waith yn golygu trawsnewid un sefyllfa (Tafod) yn sefyllfa newydd (Mynegiant); ac felly hefyd mewn Ffydd a Gweithredoedd, ffrwyth yw'r ail i'r cyntaf. Dw-i ddim yn sôn am y Ffydd Gristnogol yn unig am foment. Unrhyw ffydd, ymddengys ei bod hi mor sylweddol yn y meddwl neu'r galon â Gweithredoedd yn y golwg, er y gall ymddangos yn niwlog i'r siaradwr cyffredin. Dyma'r berthynas a'r rhagdybiau neu'r rhag- seiliau cydberthynol, ac er y gallant i'r person unigol ymddangos yn anymwybodol anhrefnus, gellir bod yn bur sicr eu bod o leiaf yn ddisgrifiadwy ac yn weddol benodol yn y bôn. Yn awr, yn y bôn, nid rhestr o reolau yn y meddwl yw gramadeg neu Dafod. Yn y bôn, cyferbyniadau anacademaidd a chyntefig yw'i gynhaliaeth. Gyda sythwelediad, ac nid gyda rhesymu mae Tafod, megis Ffydd, yn dechrau. Sythwelediadau cyferbyniol syml sy'n gwneud Tafod a Ffydd. Cymerer er enghraifft y cyferbyniadau cynieithyddol, ond sydd hefyd yn gyferbyniadau diwinyddol, rhwng Un a Llawer, Presenoldeb ac Absenoldeb, Uwchraddoldeb ac Israddoldeb, Swn a Thawelwch, yr Hunan-gynhaliol a'r Dibynnol. Dyma stwff Tafod neu Ramadeg. Canfod y gwahaniaeth cyferbyniol hollol elfennaidd rhwng Un a Llawer sy'n caniatáu inni adeiladu ar sail hynny gyfundrefn rhif mewn gramadeg, sef unigol a lluosog. Canfod fod person yn gallu bod yn bresennol mewn gofod ac amser o'n blaen un eiliad, a pheidio â bod yn bresennol yr eiliad wedyn, dyna sy'n caniatáu amserau'r berfau a pherson y rhagenw. Dyna'r rhag- dybiau neu'r rhagseiliau angenrheidiol os anymwybodol i lawer o'n gramadeg, nid rhestr o reolau. Dyna'r sgaffaldwaith cynieithyddol. Mae'r ffaith fod gen i ymdeimlad yng nghefn fy meddwl ynghylch y gwahaniaeth rhwng Uwchraddoldeb ac Israddoldeb yn caniatáu imi fabwysiadu neu ddyfeisio cyfundrefn cymharu ansoddeiriau — coch,