Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau HYWEL TEIFI EDWARDS (gol.), Cwm Tawe (Gwasg Gomer, 1993). tt.328, Pris: [12.95. Gellir olrhain y syniad am y gyfrol hon i Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Abertawe, ac y mae llawer ohoni yn waith aelodau yr Adran honno. Y mae ei llwyddiant di- gwestiwn yn galondid i un a wêl y Coleg hwnnw heddiw yn bur wahanol i'r un y bu'r Athro Ernest Hughes yn efengylu mor frwd, diflino a llwyddiannus dros ei fodolaeth a'i ffyniant ymhlith poblogaeth Gymraeg y cymoedd cyfagos pan sefydlwyd ef. Y mae nod y golygydd, yr Athro Hywel Teifi Edwards, pennaeth presennol Adran y Gymraeg yn y Coleg, gyda'i ddiddordeb heintus yn hanes ein diwylliant, i'w weld yn amlwg drwy'r gyfrol, a hyfryd yw deall mai'r gyntaf ydyw yng 'Nghyfres y Cymoedd'. Mesur o lwyddiant y gyfrol hon ac nid beirniadaeth arni, yw awgrymu y dylid ystyried ail gyfrol ar Gwm Tawe hefyd er mwyn gwneud llawn gyfiawnder ag ef. Hwyrach y gellid dechrau ymhellach yn ôl na chyfnod Hopcyn ap Tomas gyda'r chwed- lau Arthuraidd, efallai? ond yn sicr dylid rhychwantu'r canrifoedd rhyngddo ef a Dafis y llyfr-rwymwr. A phan ddown tua'r terfyn, anodd deall, na maddau, gadael Islwyn Williams o bawb, allan o'r gyfrol! Dangosir i ni mor ddibynnol ar ddatblygiadau diwydiannol, econ- omaidd a chymdeithasol, oedd diwylliant arbennig Cwm Tawe yn ei gryfder. Oni ddylid dangos fod ei ddirywiad hefyd yn codi o'r newid dirfawr yn yr un ffactorau, a bod y ffactor honno'n bwysicach o lawer na diwinyddiaeth ryddfrydol ambell weinidog y Gair, hwnt ac yma, yn y Cwm yn ystod y ganrif hon? Ond i ddychwelyd at y gyfrol dan sylw, ni fedrai lai na gafael yn dynn yn sylw un â'i chyswllt â Chwm Tawe yn ymestyn dros ddeg a thrigain o flynyddoedd, a'r ddwy gân ar ddechrau'r gyfrol, sy'n cyfeirio at chwalfa'r hen gym- deithas, un Meirion Evans, ac yn arbennig un Dafydd Rowlands, yn tynnu wrth linynnau'r galon gan fynegi i'r dim deimladau alltud nad â bellach ond ar ymweliad â'r lle y bu'n chwarae gynt. Er ei fod dipyn o naid yn ôl i'r 14eg ganrif i Ynystawe Hopcyn ap Tomas, gwerthfawr oedd gwybod i wr o'r ardal fod o bwys cenedlaethol yng Nghymru ei ddydd. Y mae